Ydych chi’n Yr Wyddgrug Wyllt?

Ydych chi’n Yr Wyddgrug Wyllt?

River Alyn clean up with the Wild About Mold project (c) Flintshire Leader

O ddysgu sgiliau traddodiadol a physgota am sbwriel hanesyddol i fonitro’r bywyd gwyllt presennol a phlannu coed ar gyfer y dyfodol, mae prosiect ‘Yr Wyddgrug Wyllt’ yn cyflawni’r cyfan.

Gyda chefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr ac Ymddiriedolaeth Elusennol HDH Wills, mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn cynnal cyfres o weithdai, teithiau tywys a dyddiau i wirfoddolwyr yn yr Wyddgrug a’r ardal o amgylch – ac mae’r rhain yn agored i bawb, dim ots ble rydych chi’n byw!   

Fe dreuliodd Sophie, myfyrwraig ym Mhrifysgol Lerpwl sy’n gweithio tuag at radd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol, wythnos gyda ni’n ddiweddar yn cael rhywfaint o brofiad gwaith – dyma ei geiriau hi:

Rydw i wedi treulio’r wythnos yn canolbwyntio’n bennaf ar y prosiect Yr Wyddgrug Wyllt gan ddysgu sgil newydd – pladurio! Mae gwirfoddolwyr a fi wedi bod yn pladurio ardal yn Neuadd y Sir yr Wyddgrug (prif leoliad Cyngor Sir y Fflint) oherwydd ei statws fel Dôl y Coroni.

Mae pladurio’n bwysig mewn dôl oherwydd mae’n gallu helpu i atal rhai rhywogaethau penodol o laswellt rhag rheoli gormod, a hefyd creu ardaloedd byrrach o laswellt lle gall blodau gwyllt a phlanhigion byrrach gael digon o olau haul i ffynnu.

Mae’r glaswellt wedi’i dorri’n cael ei symud o’r ardal rhag i faethynnau ychwanegol ddychwelyd i’r pridd, gan annog y rhywogaethau cystadleuol o laswellt i ffynnu. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r rhywogaethau gwannach gystadlu ac yn creu ardal o amrywiaeth gyfoethog o blanhigion. Wedyn mae posib rhoi’r toriadau planhigion ar gompost neu eu gwneud yn fêls gwair hyd yn oed os yw’r tywydd yn caniatáu!

Rydw i wir wedi mwynhau fy wythnos yn gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Natur. Mae wedi bod yn gyfle i mi ddysgu llawer o sgiliau newydd a chyfarfod gwirfoddolwyr eraill sy’n rhannu diddordeb mewn cefnogi bywyd gwyllt ein cymunedau ni.
Scything with Wild About Mold project

Scything with Wild About Mold project

Sut gallwch chi gymryd rhan

Ymunwch â ni mewn digwyddiad yn fuan i ddysgu rhywbeth newydd, cyfarfod pobl debyg i chi a gwella eich ffitrwydd hyd yn oed!

 

Digwyddiadau   Bod yn wirfoddolwr