Corsydd Môn, Cynnwrf Mawr yn 2019!

Corsydd Môn, Cynnwrf Mawr yn 2019!

Water vole © Terry Whittaker2020VISION

Yn 2019 bydd Prosiect Tirwedd Fyw Corsydd Môn yn cael ei lansio gyda’r nod o warchod a gwella’r cefn gwlad llawn bywyd gwyllt ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn.

Yn cael ei gyllido gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, bydd digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, gyda’r nod o helpu a dysgu am fyd natur y tu hwnt i ffiniau gwarchodfeydd natur ac i’r dirwedd ehangach, drwy weithio gyda pherchnogion tir lleol.     

Yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, mae ardal y prosiect rhwng Llangefni, Pentraeth a Moelfre. Mae’n dirwedd o gymoedd pantiog sy’n cynnwys gwlybdiroedd cors yn yr ardaloedd is ac amrywiaeth o ddefnyddiau tir mewn llefydd eraill. Ymhlith y rhywogaethau arbennig sydd i’w gweld yma mae’r dylluan wen, y wiwer goch, y llygoden ddŵr, tegeirianau pryf a mursen brin y de.

Dywedodd Henry Cook, Swyddog Tirwedd Fyw Corsydd Môn, “Mae’r rhanbarth yn gartref i gyfoeth o blanhigion ac anifeiliaid eiconig ac rydw i eisiau annog y cymunedau a’r naturiaethwyr lleol i ymuno fel ein bod ni’n gallu creu amgylchedd iachach, mwy cysylltiedig, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd, helpu i greu dolydd o flodau gwyllt, plannu coed a gweld lle mae rhywogaethau prin yn byw.”

I wneud gwahaniaeth i fyd natur yn y gornel hyfryd hon o Ogledd Cymru, cysylltwch â Henry ar henry.cook@northwaleswildlifetrust.org.uk or 07940008799.

Find out more about the Anglesey Fens Living Landscape