Gwarchodfa Natur Old Pulford Brook Meadows

A plant with very pointy segmented leaves, and small yellow flowers, in a field of grass.

Philip Precey

Hare

Hare © David Tipling 2020 Vision

Kestrel

Kestrel © Steve Waterhouse

Meadowsweet

Meadowsweet © Paul Lane

Gwarchodfa Natur Old Pulford Brook Meadows

Yn llawn lliw a bywyd yn yr haf, arferai’r dolydd gorlifdir prin yma fod yn olygfa gyffredin ar hyd Afon Dyfrdwy ar un adeg.

Location

Pulford
Yr Orsedd-Goch
Wrecsam
CH4 9JH

OS Map Reference

OS Explorer Map 266
SJ402581
A static map of Gwarchodfa Natur Old Pulford Brook Meadows

Know before you go

Maint
5 hectares
z

Pris mynediad

Na

Anifeiliaid pori

Gwartheg, mis Medi i fis Hydref

Llwybrau cerdded

Nid oes unrhyw lwybrau - cerdded trwy laswelltir. Yn aml yn wlyb.

Mynediad

Rhaid cael trwydded i fynd i’r warchodfa natur yma – cysylltwch â Phrif Swyddfa’r Ymddiriedolaeth Natur am ragor o wybodaeth.

Dogs

Caniateir cŵn

When to visit

Amseroedd agor

Rhaid cael trwydded i fynd i’r warchodfa natur yma

Amser gorau i ymweld

Trwy gydol y flwyddyn

Am dan y warchodfa

Llifogydd o flodau

Yn y gwanwyn, yr hydref a’r gaeaf, efallai bod y casgliad yma o gaeau’n edrych yn eithaf cyffredin ar yr olwg gyntaf. Ond, o’u gweld yn yr haf, mae eu pwysigrwydd fel un o’r esiamplau gorau sy’n weddill o ddôl gorlifdir yng Nghymru yn amlwg: cewch eich cyfarch gan enfys ryfeddol o liw a phryfed yn fwrlwm o’u cwmpas. Mae pom-pom porffor, tal y bwrned mawr yn nodweddu’r ddôl yma, gyda pheradyl yr hydref, ytbysen y waun a’r erwain a’u harogl cryf i’w gweld erbyn diwedd yr haf. Mae llwynogod, ysgyfarnogod, gwyddau Canada ac elyrch ymhlith rhai o’r cymeriadau lliwgar mwy sy’n byw yma ar wahanol adegau o’r flwyddyn.  

Heddiw, mae’r dolydd gwlyb yma’n gynefin prin, dan fygythiad, ar ôl dirywio’n ddramatig yn ystod y ganrif ddiwethaf. Arferai gorlifdiroedd fod yn ardaloedd hynod werthfawr fel rhan o dir amaethyddol, oherwydd y cyfoethogi rheolaidd ar lifwaddod a maethynnau wrth i afonydd orlifo’u glannau’n naturiol yn ystod y gaeaf. Mewn ymgais i sicrhau amaethu mwy proffidiol, mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu draenio’n artiffisial ac mae camlesi a chloddiau wedi’u codi ger prif afonydd – fel bod posib ffermio’r tir am gyfnodau hirach yn ystod y flwyddyn a’i droi’n borfa barhaol a chnydau âr. Mae arferion o’r fath wedi arwain at golli mwy na 95% o’n glaswelltir brodorol, sy’n gatastroffig ac wedi esgor ar ganlyniadau o ran lliniaru llifogydd, ansawdd dŵr a ffrwythlondeb y pridd 

Gwartheg a thorri

Yn debyg iawn i ddolydd gwair confensiynol, mae’r gwair yn cael ei dorri ganol yr haf ac wedyn mae gwartheg yn pori’r safle rhwng misoedd Awst a Hydref. Er hynny, yr hyn sy’n gwneud y cynefinoedd gorlifdir penodol yma’n unigryw  yw eu perthynas â’r afon: maent yn dibynnu ar faethynnau’n cael eu cludo arnynt gan y llifogydd blynyddol, yn ystod y gaeaf fel rheol. Mae’r amseru’n allweddol – os ydynt dan ddŵr am gyfnod rhy hir, mae’r pridd yn datblygu i fod yn anaerobig, gan newid ei strwythur; os nad yw’r dŵr arnynt am ddigon o amser, nid oes digon o faethynnau’n cael eu gwaddodi, gan achosi newid yn y gymuned o blanhigion. Felly mae draenio ar ôl llifogydd yn hanfodol bwysig, ac mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli’r ffosydd a’r draeniau traed ar draws y safle er mwyn rheoleiddio’r broses.     

Cyfarwyddiadau

Mae Old Pulford Brook Meadows i’w gweld i’r de o Poulton ger yr Orsedd-goch, Wrecsam, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r tir yn rhan o Stad y Grosvenor ac yn eiddo i seithfed Dug Westminster.

Contact us

Jordan Hurst
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)