Matthew Roberts
Gwnewch amser i ymlacio a thawelu eich corff a'ch meddwl drwy gysylltu â byd natur ac egni haf bywiog yr Heuldro yma.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Cyfle gwych i gyfarfod pobl newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Bydd Melanie, gwirfoddolwr gyda Phrosiect Gweilch y Pysgod y Brenig a hyfforddwr lles, yn eich tywys chi ar y daith gerdded hamddenol yma. Cyfle i brofi manteision lles bod allan ym myd natur, deffro ein synhwyrau a gwneud amser i arafu, ymlacio a dim ond bod. Byddwch yn cael y cyfle i brofi teimladau synhwyraidd wrth i ni symud ymlaen ar hyd y llwybr yn Llyn Brenig.