Dadansoddi corws y wawr

Dadansoddi corws y wawr

Wren - Andy Morffew

.

Nid mater o ddisgrifio’n ffeithiol yn unig ydi dysgu cân adar, mae’n fater o deimlad. Beth mae'r sŵn yn eich atgoffa chi ohono neu sut mae'n gwneud i chi deimlo? Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu â'r teimlad hwnnw, ’fyddwch chi byth yn anghofio'r aderyn y tu ôl i'r gân.

Mae adar gwryw yn canu oherwydd bod y dyddiau hirach a’r tymheredd yn codi yn gwneud i'w hormonau ymchwyddo (yn y DU, gwrywod ydi’r holl adar sy'n canu yn y gwanwyn yn y bôn). Mae adar gwryw yn canu er mwyn arddangos eu nwyddau genetig, i ddarbwyllo’r benywod i baru gyda nhw a magu cywion gyda nhw y tymor yma.

Efallai bod ail ddiben cân yr adar yn llai amlwg ar unwaith. Os edrychwch chi ar gartrefi dynol, mae'n amlwg ein bod ni'n hoffi ffiniau clir. Yn y gwanwyn, mae angen digon o le ar adar i ddod o hyd i fwyd i'w cywion, a chyfeirir at y gofod yma fel tiriogaeth. Gan na all adar adeiladu ffensys, maen nhw’n diffinio eu tiriogaethau drwy ganu. Mae aderyn sy’n canu, dim ots pa mor felodaidd neu hardd y mae’n swnio, i bob pwrpas yn dweud wrth gymdogion o’r un rhywogaeth am ‘gadw draw a hedfan i ffwrdd!’

Yn lwcus iawn i ni, mae llawer o adar hardd, gyda chaneuon yr un mor hardd, yn gyffredin yng ngerddi a pharciau'r DU. A’r gwanwyn, wrth i adar hawlio tiriogaeth i fagu ynddi, ydi’r amser gorau i roi sylw iddyn nhw.

Bronfraith

Ymhlith yr adar hawsaf i'w hadnabod oddi wrth eu cân ym mharciau a gerddi'r DU mae'r fronfraith. Mae'n gweiddi'r un ymadrodd atseiniol hanner dwsin o weithiau, cyn symud i ymadrodd atseiniol arall, ac wedyn un arall. Mae cân y fronfraith, ar ôl dod i’w hadnabod, yn unigryw iawn.

Song thrush

Song thrush © Margaret Holland

Gwrandewch...

Aderyn Du

Mae cân yr aderyn du i’w chlywed o hyd ymhell i mewn i’r haf oherwydd bydd adar duon yn ceisio magu fwy nag unwaith bob tymor. Mae cân yr aderyn du’n gyfoethog ac yn ddi-ffrwt; mae'n siglo o un nodyn i'r llall ac wedyn yn stopio'n sydyn, gyda nodyn siarp yn aml, gan roi'r argraff bod rhywun wedi cydio yng ngwddw’r aderyn!

blackbird

Blackbird © Richard Burkmar

Gwrandewch...

Brych y Coed

Mae brych y coed yn dechrau canu sawl wythnos cyn yr aderyn du fel arfer ac yn aml yn canu o goed tal iawn mewn ardaloedd agored o dir comin neu barcdir. Mae ei gân yn ffliwtaidd a hardd, fel cân yr aderyn du ond, yn wahanol i’r aderyn du, mae cân brych y coed yn pylu ar y diwedd.

Mistle thrush

Mistle thrush - Amy Lewis

Gwrandewch...

Robin Goch

Mae cân y robin goch yn dechrau gyda nodyn llorweddol hir, trist, fel dŵr yn llithro dros garreg wastad, cyn treiglo’n ddiferion tristach hyd yn oed, wrth i’r dŵr lifo i lawr yr allt dros wely o gerrig mân.

Robin

Robin © Neil Aldridge

Gwrandewch...

Dryw

Mae'r dryw yn aderyn bach boslyd, yn llawn egni a hyder. Mae ei gân yn uchel, yn gyflym, yn amrywiol ac yn cynnwys trydar penigamp. Bydd dryw bob amser bron yn cynnwys trydar llym, ergydiol yn rhywle yn ei gân. Mae hwn yn arwydd cyfleus i ddechreuwyr sy’n ceisio adnabod cân adar.

Wren

Wren - Andy Morffew

Gwrandewch...

Telor Penddu

Yn syml, mae’r Telor Penddu yn swnio'n hapus. Mae’n gerddorol iawn fel yr aderyn du ond mae ei gân yn gyflymach ac yn fwy amrywiol, gydag ansawdd tebyg i siocled blasus.

Blackcap

Blackcap © Clive Nichols

Gwrandewch...

Llwyd y Gwrych

Mae'r llwyd y gwrych hyfryd, cynnil, yn un o'n hadar mwyaf cyfarwydd, bob amser yn gwingo o dan y teclynnau bwydo. Mae ei gân yn uchel ei thraw, yn eithaf byr ac yn troelli.

Dunnock

Dunnock © Bob Coyle

Gwrandewch...

Titw Tomos Las

Mae’r titwod i’w clywed yn gyffredin iawn yn ein gerddi ni hefyd ac yn nythu’n rhwydd os ydyn ni’n darparu bocsys digonol. Mae tôn ariannaidd hyfryd i’r titw tomos las, mor gerddorol â chân unrhyw aderyn, ond yr hyn y mae’r titw tomos las yn ei ddweud sy’n datgelu pwy ydi o.   

Blue tit at feeder

Blue tit at feeder © Gillian Day

Gwrandewch...

Titw Mawr

Mae tôn y titw mawr yn haerllug a beiddgar, yn siglo yn ôl ac ymlaen rhwng dau nodyn. Fodd bynnag, mae llawer o amrywiadau ar y thema yma: weithiau un nodyn, weithiau tri, weithiau'n grafog, weithiau ddim. Yn wir, mae hen ddywediad yn dweud, os na allwch chi adnabod cân aderyn, y titw mawr ydi hwnnw fel arfer!

Great tit

Great tit © Mark Robinson

Gwrandewch...

Titw Penddu

Mae cân y titw penddu yn debyg i gân y titw mawr, gan ei bod hefyd yn siglo yn ôl ac ymlaen rhwng dau nodyn, ond mae agwedd y titw penddu yn gwbl wahanol. Mae’r titw penddu yn swnio'n ansicr ohono'i hun, ac yn floesg ei dôn, ac yn nodweddiadol mae'n rhoi'r pwyslais ar ei ail nodyn hirach. Bydd y titw penddu hefyd, yn llawn cymwynas, yn canu o goeden gonwydd yn aml, neu o glwstwr trwchus o eiddew.

Coal tit

Coal tit © Bob Coyle

Take a listen...

Chiff chaff 

Chiffchaff

Chiffchaff - Janet Packham Photography

Gwrandewch...

Ji-binc

Y ji-binc yw’r mwyaf adnabyddus o’r adar i gyd a does dim posib camgymryd ei gân. Mae llawer yn dweud bod cân y ji-binc yn swnio fel bowliwr cyflym, yn dod i mewn i fowlio.

Chaffinch

Chaffinch © Gillian Day

Gwrandewch...

Llinos Werdd

O ran y llinos werdd, mae gan ei chân, sydd i’w chlywed yn aml o goeden gonwydd, ddwy ran hollol wahanol. Mae’n dechrau gyda ‘bshiiiii’ llym a dilynir hyn bron yn syth gan drydar hylifol hardd. Pan fydd mewn hwyliau da, mae'n codi o dop gwrych cypreswydden i hedfan dan ganu’n hyfryd.

Greenfinch

Greenfinch © Mark Ollett

Gwrandewch...

.