Mae ein nawdd i rywogaethau’n anrheg berffaith i bobl sy’n hoff o fyd natur – gyda’r nawdd rhataf yn ddim ond £8.00!
Mae’n cynnwys tystysgrif noddi bersonol, taflen ffeithiau am rywogaethau a rhodd. Hefyd mae pob nawdd yn ein helpu ni i warchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru!

Noddi blwch gwenoliaid duon
Fe allwch chi helpu i roi cartref i wenoliaid duon

Hibernating dormouse © Danny Green
Noddi pathew
Cyfle i noddi un o famaliaid bychain prinnaf Prydain

Noddi erw o Warchodfa Natur Cors Maen Llwyd
Cyfle i gefnogi eich darn personol chi o’r llecyn trawiadol yma yng Ngogledd Cymru

Sandwich tern_Ashley Cohen
Noddi môr-wennol bigddu
Helpu i gefnogi’r unig boblogaeth bwysig o’r fôr-wennol bigddu yng Nghymru
Beth am brynu nawdd drwy Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru?
Mae Gogledd Cymru’n dirwedd unigryw gydag amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae pob nawdd rydym yn ei dderbyn yn ein helpu ni i warchod y lle arbennig yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dod yn aelod er mwyn parhau â’n gwaith
Bydd eich aelodaeth yn cefnogi prosiectau cadwraeth ac addysg hanfodol yr Ymddiriedolaeth ledled y rhanbarth, gan gynnwys adfer cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau a chynnal ein gwarchodfeydd natur.