photo of frog

Cefnogwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru os gwelwch yn dda drwy ddod yn aelod

Mae mwy na 5,000 o bobl yng Ngogledd Cymru’n cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel aelodau.


Mae’r 706 hectar o warchodfeydd natur sydd gan yr Ymddiriedolaeth yn dyst i gefnogaeth ein haelodau i fywyd gwyllt Gogledd Cymru.


Yr aelodau yw asgwrn cefn ein sefydliad ac maent yn darparu incwm hanfodol i ni bob blwyddyn. Drwy ddod yn aelod, byddwch yn helpu i ddiogelu dyfodol amgylchedd a bywyd gwyllt arbennig iawn Gogledd Cymru.


Ymunwch â ni a gallwch deimlo’n hyderus eich bod yn gwneud gwir wahaniaeth i gadwraeth bywyd gwyllt mewn rhan arbennig iawn o’r byd.
Lawrlwythwch ffurflen ymaelodi yma.

Clawr y daflen ymaelodi.

Gallwch lawrlwytho ffurflen ymaelodi i’w hargraffu yma. Cliciwch ar y ffurflen uchod.



Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru HEDDIW ac am ddangos eich cefnogaeth werthfawr i ni, byddwch yn derbyn:

  • 'Natural World', cylchgrawn yr Ymddiriedolaethau Natur, deirgwaith y flwyddyn
  • 'Natur Cymru', cylchgrawn yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru, deirgwaith y flwyddyn
  • 'Natur', ein cylchlythyr lleol ni, deirgwaith y flwyddyn
  • Pecyn o daflenni’r gwarchodfeydd natur i aelodau
  • Catalog o roddion, yn cynnwys eitemau i’r cartref a’r awyr agored, a phob un ar thema byd natur
  • Rhaglen lawn o deithiau cerdded lleol, teithiau tywys a digwyddiadau cymdeithasol i’w mwynhau
  • Fel aelod teulu, copïau rheolaidd o Watchword, y cylchgrawn bywyd gwyllt i blant
  • Gwybodaeth am glybiau gwylio natur lleol i aelodau iau sydd rhwng wyth a phedair ar ddeg oed
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o brosiectau cadwraeth bywyd gwyllt y gallwch gymryd rhan ynddynt
  • Cyfleoedd i wirfoddoli eich amser a’ch sgiliau er mwyn ein helpu i godi arian, gweinyddu a rheoli’r gwarchodfeydd natur yn uniongyrchol.

Ffïoedd Ymaelodi Lleiafswm

Dim ond wedi i ni dalu ein costau gwasanaethu i aelodau y gallwn gyfrannu arian at gadwraeth bywyd gwyllt, felly hoffem eich annog i wneud cyfraniad y gallwch ei fforddio ar ben y ffïoedd hyn.
Ar gyfartaledd, mae ein haelodau’n rhoi £5 y mis.

  • Unigol - £2 y mis * £6 yn chwarterol * £24 y flwyddyn
  • Ar y Cyd - £2.50 y mis * £7.50 yn chwarterol * £30 y flwyddyn
  • Teule - £3 y mis * £9 yn chwarterol * £36 y flwyddyn
  • Ar y Cyd (dros 65) - £2 y mis * £6 yn chwarterol * £24 y flwyddyn
  • Oes (sengl) - Taliad sengl sy’n lleiafswm o £600
  • Oes (ar y cyd) - Taliad sengl sy’n lleiafswm o £750

wildlife partnerships logo

Gall eich busnes helpu i warchod ein byd naturiol.

Nawdd Corfforedig
Beth am fod yn Bartner Bywyd Gwyllt?

Llesol i’r amgylchedd a da i’ch busnes.


Mae dod yn Bartner Bywyd Gwyllt yn ffordd wych o ddangos i’ch staff ac i gymdeithas yn ehangach bod eich cwmni o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldebau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae’n helpu i annog trafodaethau rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r sector busnes ynghylch materion amgylcheddol.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn elwa o well dealltwriaeth o faterion amgylcheddol yn berthnasol i’r sector busnes ac mae Aelod Corfforedig yn gallu gwneud defnydd o wybodaeth yr Ymddiriedolaeth am yr amgylchedd natruiol.

 

Os ydych eisiau trafod sut all eich cwmni chi helpu, cysylltwch â Frances Cattanach, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, ar 01248-3515141 neu drwy email gan ddyfynnu 'Holio Am Nawdd Corfforedig’ yn llinell eich pwnc.


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772