photo of cormorant

Rydym yn ddiolchgar iawn am eich rhodd, sy’n ein galluogi i ddal ati i warchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru


Cyfrannu rhodd

Botwm Cyfrannu Ar-Lein




Apêl Warden y Morwenoliaid

Llun o forwennol bigddu gan Graham Eaton

Nid oedd modd derbyn arian cyhoeddus ar gyfer wardeniaid y morwenoliaid yng Nghemlyn yr haf hwn.

Rydym yn apelio ar ein cefnogwyr i gyd, yn cynnwys busnesau Ynys Môn, i’n helpu gyda chyllido staff cymwys, sy’n hanfodol i sicrhau goroesiad y boblogaeth o Forwenoliaid Pigddu, sy’n rhywogaeth dan warchodaeth.

Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd y tymor wedi dod i ben, ond bydd y gost wedi gwneud twll anferth yn ein cyfrifon eleni.
Cyfrannwch unrhyw swm bosibl os gwelwch yn dda – gan nodi apêl wardeniaid y morwenoliaid ar unrhyw rodd. Mae’n rhaid i ni godi cyfanswm o £7,000, felly mae pob ceiniog yn cyfrif!


Anfonwch siec i ni drwy’r post at YNGC, 376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YE
neu cyfrannwch ar-lein.

Cymorth Rhodd (Gift Aid)

gift aid logo

Fel elusen gofrestredig, gall Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hawlio’r dreth ar eich tanysgrifiadau aelodaeth a’ch rhoddion yn ôl os ydych yn drethdalwr yn y DG.

 

Pe bai pob aelod o YNGC a phawb sy’n ei chefnogi ac sy’n talu treth yn gwneud datganiad Cymorth Rhodd, byddem yn derbyn miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol i’w gyfrannu at ein gwaith cadwraeth allweddol.


Unwaith rydych wedi gwneud datganiad, bydd yn berthnasol i’ch HOLL roddion a thanysgrifiadau aelodaeth er 6 Ebrill 2000 (pan ddaeth Cymorth Rhodd i rym yn y lle cyntaf) nes eich bod yn canslo eich datganiad. Os ydych wedi gwneud datganiad eisoes, diolch yn fawr iawn i chi – mae eich arian yn gweithio’n galetach fyth i ni!

 

Gwneud cais am ffurflen Cymorth Rhodd drwy ebostl

neu lawrlwytho ffurflen pdf y gellir ei hargraffu

neu lenwi’r ffurflen ar-lein


Gwneud ewyllys er budd bywyd gwyllt

Gyda’ch cymorth chi, gallwn weithio i ddiogelu bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Mae gan nifer fawr ohonom atgofion melys am gefn gwlad a waeth beth yw eu maint, mae unrhyw roddion mewn ewyllys o gymorth i’r Ymddiriedolaeth Natur sicrhau bod ein gwaith cadwriaethol yn parhau er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol.

 

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru angen eich cefnogaeth er mwyn sicrhau gwell dyfodol i natur yng Ngogledd Cymru ac un o’r ffyrdd gorau un o wneud hyn yw drwy gyflwyno rhodd yn eich ewyllys i fywyd gwyllt. Gyda’ch cefnogaeth chi, bydd plant Gogledd Cymru’n cael dal ati i fwynhau bywyd a mannau gwyllt wrth iddynt dyfu i fyny a magu eu teuluoedd eu hunain.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Frances Cattanach, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, drwy e-bost neu dros y ffôn ar 01248 351541.



Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772