Prosiect y Gwas y Neidr Cwtfras yn Afon Dyfrdwy

Yr arolwg ar y Gwas y Neidr Cwtfras yn Afon Dyfrdwy y gorau eto

Yn ddiweddar, trefnwyd arolwg arall ar Afon Dyfrdwy i gofnodi'r Gweision y Neidr Cwtfras (Gomphus vulgatissimus) yno. Cafwyd canlyniadau rhyfeddol o dda. Cofnododd tîm o chwech, dan arweiniad yr arbenigwr lleol, Andy Harmer, 103 o gofnodion ar hyd un lan 500 metr o hyd, ychydig i'r de o Farndon.

Meddai Andy Harmer, "Casglwyd 97 o hengrwyn [cloriau nymff] ond gadawyd pump arall gan fod yr oedolion yn dal i ddod allan ohonynt. Mae hynny'n gwneud cyfanswm anhygoel o 103 o gofnodion. Roedd y casgliad o oedolion yn unig yn 63, a chyfres lawn o adenydd a adawyd ar ôl gan un gwas y neidr anffodus a gafodd ei fwyta, mae'n bur debyg, gan ysglyfaethwr wedi iddo ddod i'r golwg. Gellir ei ychwanegu serch hynny at y canlyniadau, i wneud cyfanswm o 64!"

Meddai Swyddog Cadwraeth YNGC, Adrian Lloyd Jones, "Gan fod y gwanwyn wedi bod yn hwyr yn cyrraedd, doeddem ni ddim yn hyderus y byddem yn cael hyd i unrhyw beth, ond roedd digonedd er mawr syndod i ni. Roedd yn gyfle gwych hefyd i weld y gweision y neidr yn dod allan o'u croen o flaen ein llygaid!" Ychwanegodd, "Dyma'r arolwg mwyaf llwyddiannus ar y Gwas y Neidr Cwtfras ar Afon Dyfrdwy hyd yma, hyd y gwyddom ni. Rydym yn eithriadol falch o'r canlyniadau hyn, sy'n dangos pa mor bwysig yw Afon Dyfrdwy i'r rhywogaeth."