Glaswelltir gwlyb gyda gwrychoedd da ac mae Caeau Pen y Clip yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae'r warchodfa ar gyrion Porthaethwy, ryw 1 km o ganol y dref, ym Mhenlon. Ceir gofod parcio ar ochr y ffordd yn ymyl y giât. Gellir cyrraedd y warchodfa drwy fynd dros un o ddwy gamfa. Hefyd, gall ymwelwyr nôl allwedd o swyddfa Bangor er mwyn parcio yn y warchodfa a chael mynediad iddi drwy giât. Nid oes unrhyw lwybrau troed yn y warchodfa hon. Er bod y caeau'n wastad yn gyffredinol, nid ydynt yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na chadeiriau gwthio.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.
Gallwch lwytho taflen y warchodfa o'r fan yma>> hefyd. (pdf 280k)
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Caeau Pen y Clip SH 555 728 (6 erw)