
Gweithredu yn y gymuned i achub ein gwenyn
Mae pob un ohonon ni’n dibynnu ar wenyn i gael bwyd – mae hyd at draean o’n cnydau’n dibynnu ar wenyn i’w peillio. Ond mae ein gwenyn yn diflannu!
Drwy’r byd, mae poblogaethau gwenyn yn nychu. Felly, mewn ymateb i hyn, mae pentref Henllan yn Sir Ddinbych wedi penderfynu cydio yn yr awenau a gwneud rhywbeth er budd gwenyn yn eu cymuned trwy sefydlu Prosiect Gwenyn Henllan.


Rydym wedi dal ati i geisio diogelu Briwlys Calchfaen (Stachys alpina), sy'n tyfu ar ddim ond tri safle yn y DG, gyda dau ohonynt yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Briwlys Calchfaen yn blanhigyn bythol blewog a meddal ac mae'n 40-80 cm o uchder. Mae'n perthyn i'r teulu Labiate ac yn tyfu mewn pridd calchaidd, fel rheol ar lennyrch yng nghanol coetiroedd. Mae'n blodeuo rhwng misoedd Mehefin ac Awst gyda blodau cochbinc gyda chanol melyn nodedig.

Nod Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru yw sicrhau ein bod yn deall yn well ble mae Pathewod y Cyll Muscardinus arvellinarius i'w cael ledled Gogledd Cymru.

Mae Prosiect Ysgyfarnogod Gogledd Cymru'n weithredol ers mis Chwefror 2005.
Mae'r prosiect hwn yn cynnwys pob un sir yng Ngogledd Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri.
canfod mwy am y Prosiect Ysgyfarnogod >>