Dysgu a Darganfod

Ymestyn Allan at y Gymuned

Dysgu oddi wrth natur

Mae'r Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl, Ben Stammers, yn dychwelyd i rai o'i hoff lecynnau pan yn blentyn i ddangos bywyd gwyllt bendigedig i blant ysgol lleol.

image of reserve

Mae'r ymweliadau'n rhan o brosiect newydd a lansiwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn dwy o'i gwarchodfeydd natur: Spinnies, Aber Ogwen a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch.
Yn ceisio gweithio gydag ysgolion lleol a chymunedau, mae'r Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl, Ben Stammers, yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau addysgol i greu mwy o ymwybyddiaeth o'r safleoedd a'u gwerth o ran bywyd gwyllt a chadwraeth. Ariennir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Elusennol Laing a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

photo of Golden-Ringed DragonflyMeddai'r Athro Aubrey Manning, Llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur, "Nid yw dysgu uniongyrchol mor berthnasol i addysgu am fywyd gwyllt, mae'n fwy am gymryd rhan. Unwaith y mae brwdfrydedd yn cael ei greu ymhlith plant ieuainc, maent yn gallu llyncu gwybodaeth. Ewch â hwy i drochi mewn pyllau a buan iawn fyddant yn dweud popeth wrthych am fywyd sgorpions a larfa gweision y neidr!"

Mae Ben yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant prosiect sydd wedi cael ei gynnal am y tair blynedd diwethaf yng Ngwarchodfa Natur Cemlynyr Ymddiriedolaeth Natur ar Ynys Môn. Profodd yn llwyddiant mawr, gydag adborth da gan blant, athrawon a grwpiau a gymerodd ran mewn gweithgareddau yno. Y syniad yw cael y grwpiau ac unigolion i archwilio cynefinoedd a phrofi bywyd gwyllt yn ei amgylchedd naturiol.


"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y prosiect newydd hwn," meddai Ben, "ac rwy'n gobeithio rhannu fy mrwdfrydedd gydag amrywiaeth mor eang ag y bo modd o bobl. Mae gwarchodfeydd fel Cors Goch a Spinnies, Aber Ogwen, yn perthyn i ni i gyd. Drwy dreulio amser ar y safle, yn gwylio ac yn darganfod gwahanol greaduriaid a sut maent yn goroesi, gall pobl greu perthynas gyda lle a theimlo cyswllt gwirioneddol gyda'r amgylchedd lleol."


"Rwy'n cofio cyffroi drwyddaf, pan yn blentyn, wrth weld glas y dorlan am y tro cyntaf yn Aber Ogwen, a gobeithio bydd yr ymweliadau gan ysgolion yr ydym yn eu trefnu'n darparu atgofion tebyg i blant heddiw, i danio eu dychymyg a gwneud iddynt deimlo eu bod yn darganfod rhywbeth pwysig iawn. Gobeithio hefyd y bydd yn ysbrydoli ambell un i chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth."



CCW logo

John Laing logo


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772