>
Mae Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru'n cynnig cyfleoedd lleol i chi ddysgu mwy am y bywyd gwyllt o'ch cwmpas.
Mae croeso i deuluoedd ymuno â ni ar amrywiaeth eang o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn i fwynhau byd natur. Edrychwch yn ein tudalen digwyddiadau i gael gwybod beth sy'n digwydd yn agos atoch chi.
Anelir yr Wybodaeth i Athrawon a'r Grid Awgrymiadau ar gyfer Astudiaethau a Gweithgareddau at Gyfnod Allweddol 2 yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Er eu bod yn darparu gwybodaeth fanwl am warchodfa natur, mae'r wybodaeth yn berthnasol yn fras i unrhyw safle gyda chynefin tebyg. Maent yn cyflwyno digon o wybodaeth i athrawon ymweld â'r warchodfa ac maent yn darparu sawl gweithgaredd trawsgwricwlaidd ar gyfer y plant. Maent yn cynnwys gwybodaeth am yr amser gorau i ymweld a beth allwch chi ddisgwyl ei weld. Maent yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gwybodaeth i Athrawon
Os hoffech ymweld â glaswelltir calchaidd gyda golygfeydd godidog fe allwch ymweld â:Gwarchodfa Natur Mariandyrys, ger Llangoed.
Nodiadau i Athrawon: Saesneg - Cymraeg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa
Phorth Diana, ger Trearddur.
Nodiadau i Athrawon: Saesneg - Cymraeg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa
Choed Porthamel, ger Llanfair (dalier sylw mae rhaid cael caniatâd i ymweld ac yma).
Nodiadau i Athrawon: Saesneg - Cymraeg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Goch, ger Benllech, Ynys Môn.
Nodiadau i Athrawon: Saesneg - Cymraeg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa
Os am fynd am dro i ddolydd a gwrychoedd, gallech ymweld â:
Gwarchodfa Natur Caeau Pen y Clip, ger Porthaethwy, Ynys Môn.
Nodiadau i Athrawon: Saesneg - Cymraeg - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa
Os am fynd am dro i draethau arfordirol o ro mân neu i weld heidiau o adar môr, gallech ymweld â:
Gwarchodfa Natur Cemlyn, ger Cemaes, Ynys Môn.
For suggestions of studies and activities for schools based at Cemlyn Nature Reserve, you can download Saesneg(pdf) - Cymraeg(pdf) - (dogfen word) - (dogfen word) - mwy o wybodaeth a lleoliad y warchodfa