Prosiect Gwenyn Henllan

Gweithredu yn y gymuned i achub ein gwenyn

bee photoMae pob un ohonon ni’n dibynnu ar wenyn i gael bwyd – mae hyd at draean o’n cnydau’n dibynnu ar wenyn i’w peillio. Ond mae ein gwenyn yn diflannu!

Drwy’r byd, mae poblogaethau gwenyn yn nychu. Felly, mewn ymateb i hyn, mae pentref Henllan yn Sir Ddinbych wedi penderfynu cydio yn yr awenau a gwneud rhywbeth er budd gwenyn yn eu cymuned trwy sefydlu Prosiect Gwenyn Henllan.

Nod y prosiect yw cynyddu nifer y gwenyn sydd i’w cael yn Henllan a’r cyffiniau trwy gyfoethogi mannau cymunedol, gerddi a thiroedd fferm. Byddwn yn gwneud hyn trwy gynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau i’r holl deulu. Caiff y gwaith ei noddi gan Gadwyn Clwyd a’i gyflawni gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ar y cyd â Grŵp Cadwraeth Henllan.

Felly, dewch draw i ymuno â ni. Dewch i gael hwyl, i ddysgu sgiliau newydd ac i droi Henllan yn hafan i wenyn!

Caiff y digwyddiadau eu rhestru isod. Cofiwch edrych yn rheolaidd ar y dudalen yma neu ffoniwch Simon Farr ar 01352 810469 i gael y diweddaraf am y digwyddiadau neu i gael gwybodaeth bellach am y prosiect. Hefyd, edrychwch yn ffenestr Swyddfa Bost Henllan.

 

Rhaid trefnu lle ymlaen llaw, gyda Simon Farr.
Rhoddir blaenoriaeth i drigolion yr ardal.


DIGWYDDIADAU

Nos Iau 22ain Gorffennaf 7-9pm, Ysgol Henllan
COED FFRWYTHAU A GWENYN. TOCIO AC IMPIO
Cyfle i gael coeden ffrwythau am ddim, a dysgu cyfrinach tocio yn yr haf.
Rhaid archebu lle.

Dydd Sadwrn 24ain Gorffennaf, 2-4pm Neuadd yr Eglwys
HELPU I GREU HAFAN I BOBL AC I WENYN: GARDD WENYN Y NEUADD
Clirio isdyfiant, gwneud llwybrau a phlannu planhigion addas i wenyn.
Hwyl a lluniaeth i bob oedran.

Mae yna lwyth o wybodaeth am Wenyn ar gael ar y we. Ymweld ar gewfanau yma i chwilio mwyaf. Mae'r wefannau yma yn Saesneg yn unig.

Popeth am y mel-wenyn
www.bbc.co.uk/nature/species/European_honey_bee

Garddio er lles y mel-wenyn
www.danthegardener.co.uk/honey-bee-garden.htm

Cadw mel-wenyn
www.britishbee.org.uk

Popeth am y mel-wenyn
www.bumblebeeconservation.org.uk/index.htm

Canllaw ar adnabod gwenyn
www.bumblebeeconservation.org.uk/bumblebees_id.htm

www.nhm.ac.uk/nature-online/life/insects-spiders/identification-guides-and-keys/bumblebees/index.html

Canllaw pryfid paill

www.bto.org/bbs/take_part/wcbs_insects%20_v5%20_2.pdf


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772