Ceisio Canfod Poblogaethau Ysgyfarnogod
Cynhaliwyd astudiaeth beilot fechan i sefydlu dwysedd y poblogaethau o ysgyfarnogod mewn cynefinoedd o laswelltir ar chwe safle yng Nghonwy a Gwynedd yn gynnar yn 2006.
Sut gwnaed hyn
Cerddwyd darnau 1km o hyd o lwybrau troed yn y gwyll gan ddefnyddio lamp bwerus iawn i weld unrhyw ysgyfarnogod (a chreaduriaid eraill!).
Defnyddiwyd trawsluniau o linellau syth fel bod modd gwneud amcangyfrifon o ddwysedd y poblogaethau, gan ddefnyddio technegau samplu pellter.
Ni chawsom hyd i lawer o ysgyfarnogod. Nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod yr ysgyfarnog yn absennol ond gallwn gymryd yn ganiataol bod dwysedd y poblogaethau'n isel iawn yn yr ardaloedd a arolygwyd.
Yng Ngwynedd, dim ond 1 ysgyfarnog a welwyd. Yn yr achos hwn, nid oedd modd cynnal dadansoddiad pellach gan fod angen gweld mwy nag un ym mhob trawslun.
Yng Nghonwy, gwelwyd ysgyfarnogod ar 3 trawslun. Fodd bynnag, dim ond mewn dau o'r rhain y gwelwyd mwy nag un ysgyfarnog i bob trawslun. Yn yr achos hwn, defnyddiwyd yr hafaliad dwysedd poblogaeth gyda thrawslun SH826663 a thrawslun SH965756 gan gyfrif y dwyseddau fel 1.65 ysgyfarnog i bob hectar yn SH826663 a 0.22 ysgyfarnog i bob hectar yn SH965756. Yn y ddau achos, cyfunwyd canlyniadau'r ddau ymweliad â'r trawsluniau fel un.
Dadansoddi Cynefinoedd
Astudiwyd y cynefin o amgylch bob trawslun hefyd. Roedd hyn yn ein galluogi i edrych ar unrhyw debygrwydd yn nosbarthiad y cynefin yn y pedwar trawslun ble gwelwyd ysgyfarnogod. Rydym yn gwybod bod gan ysgyfarnogod amrediad o rhwng 20 a 40 hectar ar gyfer eu cartref. Ar gyfer yr astudiaeth hon, rhoddwyd sylw i ardal o 30 hectar.
Roedd pob un o'r plotiau 30 hectar yn cynnwys glaswelltir wedi'i wella.
Yn cynnwys amrediad o gyn lleied â 30% i gymaint â 90%.
Gyda'r pedwar trawslun a oedd yn cynnwys ysgyfarnogod, y canran isaf o laswelltir wedi'i wella oedd 65% a'r uchaf oedd 90%.
Gwelwyd coetir llydanddail lled-naturiol mewn tri allan o'r pedwar plot; fodd bynnag, roedd y cynefin hwn yn gorchuddio ardal fechan iawn (1-3%).
Yng Nghonwy, roedd plot SH826663 yn cynnwys dau fath o laswelltir (wedi'i wella a chorsiog) ynghyd â dau fath o goetir (llydanddail lled-naturiol a chonwydd wedi'u plannu).
Roedd yr ail drawslun yng Nghonwy a oedd yn cynnwys ysgyfarnogod (SH965756) hefyd yn cynnwys dau fath o laswelltir (wedi'i wella a niwtral wedi'i led-wella) a dau fath o goetir (llydanddail lled-naturiol a llydanddail wedi'u plannu).
Y Cam Nesaf - Gaeaf 2006/07
Rydym wedi cyrraedd cam nesaf ein prosiectau Ysgyfarnog yn awr.
Mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rydym unwaith eto'n gobeithio cael syniad o ddwyseddau'r poblogaethau o ysgyfarnogod. Rydym wedi dewis 40 o wahanol safleoedd ledled y Parc Cenedlaethol. Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys cynefinoedd o gonwydd, coed llydanddail, twyni tywod, glaswelltir asid yn yr ucheldir, rhostir, mosáig ac iseldir. Mae gan bob cynefin 5 safle, ac eithrio'r tir isel, sydd â 10. Oherwydd cyfyngiadau amser, rydym wedi gofyn i wirfoddolwyr gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae pob arolygwr yn cael ei drawslun ei hun a byddant yn ei gerdded ddwywaith rhwng canol mis Rhagfyr a diwedd mis Chwefror.
Lawrlwytho methodoleg y trawslun (word.doc) neu (.pdf) yma.
Dewch yn ôl i'r fan yma'n nes ymlaen yn 2007 ar gyfer y canlyniadau.