Mytholeg - Ysgyfarnogod yng Ngogledd Cymru

Ledled y byd ac ers canrifoedd maith, mae'r Ysgyfarnog wedi bod yn atyniad arbennig iawn i bobl.
Mae'r anhawster i'w dal a'i hymddygiad anarferol, yn arbennig yn ystod y nos, wedi cadarnhau'r enw y mae wedi'i gael fel creadur rhyfeddol!
Ysgyfarnog yw Cwningen y Pasg mewn gwirionedd!
Ysgyfarnogod oedd ei symbol sanctaidd. Roedd y Pasg (Eostre) yn dathlu dyfodiad y gwanwyn yn wreiddiol. Cafodd symbolau Paganaidd eu trawsffurfio'n eiconau Cristnogol. Dyma sut y cafwyd y Pasg a 'chwningen y Pasg'.

Ceir sawl ofergoel amrywiol.
Dyma enghraifft neu ddwy:

    Ni ellid crybwyll ysgyfarnogod ar y môr oherwydd credai morwyr eu bod yn greaduriaid anlwcus.
    Yng Nghernyw, dywedid bod y merched a oedd yn marw o alar oherwydd carwr chwit-chwat yn troi'n ysgyfarnogod gwyn pur ac yn dod i aflonyddu ar y carwr euog.

Yng Nghymru, cyfeirir yn aml iawn at ysgyfarnogod mewn chwedlau ac yn ein llenyddiaeth.
Yn y Mabinogion, mae Gwion Bach yn ceisio dianc rhag crafangau'r wrach, Ceridwen, wrth iddi redeg ar ei ôl ar draws tir, drwy ddŵr a thrwy'r awyr. Mae'n troi'n ysgyfarnog ac mae'r wrach yn troi'n filgi, mae ef yn troi'n bysgodyn a hithau'n ddyfrgi, ef yn aderyn a hithau'n hebog. Yn olaf, mae ef yn newid yn ronyn o wenith ac yn cael ei fwyta gan iâr Ceridwen. Fodd bynnag, ceir diwedd hapus oherwydd wedi i'r wrach feichiogi o ganlyniad, mae babi hardd yn cael ei eni.
Ond mae gan ysgyfarnogod gyswllt agos â drygioni mewn mytholeg, gyda gwrachod yn gallu eu newid eu hunain yn ysgyfarnogod - a chofnododd Gerallt Gymro, wrth iddo deithio drwy Gymru yn 1188, y gred Gymreig bod gwrach yn gallu ei newid ei hun yn ysgyfarnog er mwyn allan i'r caeau a sugno llefrith y buchod.

tair ysgyfarnog rhyng-gysylltiol
Ym mhob cwr o'r byd, mae'r cylch diddiwedd o dair ysgyfarnog wedi'u rhyng-gysylltu'n ymddangos sawl tro. Rhith i'r llygad yw'r ysgyfarnogod mewn gwirionedd, oherwydd er bod y tair yn ymddangos fel pe bai ganddynt ddwy glust bob un, dim ond tair clust a geir yn y ddelwedd mewn gwirionedd. Ceir enghreifftiau mewn eglwysi Canoloesol ac ar arteffactau o Iran o'r 12fed a'r 13eg ganrif.

Gweler tudalen we Chris Chapman Photography am wybodaeth bellach am y pwnc hwn.

llun gan David Mason