Ecoleg yr Ysgyfarnog
- Mae ysgyfarnogod yn wahanol i gwingod oherwydd bod ganddynt glustiau hirion gyda blaen du ac maent yn brasgamu wrth symud, mae ganddynt aelodau hir yn eu cyrff ac maent yn fwy o faint (yn pwyso oddeutu 3- 4 kg).
- Nid yw ysgyfarnogod yn byw mewn tyllau; yn hytrach, maent yn llechu mewn pantiau isel ar y tir, a elwir yn 'ffurfiau'.
- Mae eu tymor magu rhwng misoedd Chwefror a Medi.
- Gallant roi genedigaeth i rhwng 2 a 4 o rai bach (lefrod) a gall ysgyfarnogod benywaidd fagu hyd at 4 gwaith y flwyddyn.
- Genir lefrod uwch ben y ddaear ac maent yn cael eu gadael gan yr ysgyfarnogod benywaidd yn y ffurfiau.
- Mae'r benywod yn casglu'r lefrod wrth i'r haul fachlud er mwyn eu bwydo, ond maent yn rhoi'r gorau i sugno'r fam yn bedair wythnos oed.
- Yn ystod blwyddyn gyntaf y lefrod, mae'n debygol y bydd 90% yn marw oherwydd afiechyd, y tywydd, diffyg maeth ac ysglyfaethwyr.
- Mae ysgyfarnogod yn ffynnu mewn cynefinoedd âr (60% o boblogaeth Prydain o ysgyfarnogod) ond yn llai amlwg mewn tir bugeiliol (oddeutu 24% o boblogaeth Prydain o ysgyfarnogod).¹
- Fodd bynnag, yn ystod yr haf, pan nad yw cnydau grawnfwyd yn darparu porfa mwyach, defnyddir glaswelltir fel mannau bwydo. Defnyddir gwrychoedd a choedydd fel mannau gorffwys, yn arbennig yn ystod y gaeaf.
- Mae ysgyfarnogod yn arwydd da o dirlun a reolir yn dda gan eu bod yn ffafrio mosaig cynefin.
- Mae'r ucheldir ffiniol yn gartref i 11% o boblogaeth Prydain o ysgyfarnogod a dim ond 5% a geir yn yr ucheldir.¹
llun gan David Mason

Statws yr Ysgyfarnog yn y DG
Mae'r ysgyfarnog yn rhywogaeth cyffredin, ond yn dirywio, ar gynefin ffermdir yn y DG. Amcangyfrifir fod y niferoedd wedi gostwng oddeutu 75% ers yr Ail Ryfel Byd.²
Mae ysgyfarnogod yn Rhywogaeth Blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Prydain.
- Maent wedi'u cynnwys mewn 53 Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol, 16 yng Nghymru.
- Mae ysgyfarnogod wedi'u cynnwys hefyd yn A42 o Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cynefinoedd a Rhywogaethau o Bwysigrwydd Arbennig yng Nghymru).
- Mae iddynt warchodaeth gyfyngedig drwy gyfrwng y Ddeddf Helwriaeth Tir (1880) a'r Ddeddf Gwarchod Ysgyfarnogod (1911).
- Rhwng 1af Mawrth a 31ain Gorffennaf, ni ellir cynnig ysgyfarnogod i'w gwerthu. Yr amcan yw atal saethu yn ystod y prif dymor magu.
- Mae'r Mesur Hela'n gwahardd y weithred o erlid ysgyfarnogod.
Y ffeithiau'n effeithio ar y poblogaethau o ysgyfarnogod
- Newidaidau mewn dulliau ffermio - dwysáu stoc, defnyddio silwair yn hytrach na gwair, grawnfwydydd yn cael eu hau rhwng y gwanwyn a'r hydref.
- Dwyshad mewn cnydau a chynaeafu a chwistrellu cemegol, sy'n lleihau'r bwyd a'r cynefin sydd ar gael.
- Cynnydd mewn llwynogod, prif ysglyfaethwr ysgyfarnogod ieuainc.
- Gall erlid ysgyfarnogod fod yn broblem o hyd.
- Gall tywydd gwlyb amharu ar oroesiad ysgyfarnogod ieuainc. Tuedd hirdymor i gael tywydd gwlypach yn y gwanwyn a'r haf yn gallu esgor ar oblygiadau hirdymor i boblogaethau o ysgyfarnogod.
Nodiadau:
1. Mason,J. (2005)
The Hare - Merlin Unwin Books,Ludlow www.merlinunwin.co.uk
2. Tapper, S. and Hobson, D. (2002)
Conserving the Brown Hare - The Game Conservancy Trust.