Daw materion amgylcheddol i mewn i’r oriel gelf yr wythnos hon pan fydd Nia Jones, Swyddog Ymwybyddiaeth Forol, yn cyflwyno sgwrs â darluniau ar fywyd morol gwyllt coeth Gogledd Cymru a’r bygythiadau sy’n ei wynebu, mewn cyfres o sgyrsiau cysylltiedig âg arddangosfeydd cyfredol MOSTYN yn Llandudno.
Mae’r sgwrs ‘Rhyfeddodau’r Môr a Thrysorau’r Traeth’ yn ymateb i faterion a ymdrînir a hwy yng ngwaith Alex Duncan arddangosir ar hyn o bryd. Mae gweithiau’r artist, Raised Beach a Thames Chattering yn trawsgludo cildraethau creigiog arfordir Cymru a glannau’r Tafwys i mewn i’r oriel ac yn gwneud i’r arsyllwr edrych ddwywaith, gyda chasgliad o gerrig mân wedi’u hel o’r afon a’r môr gan dwyllo’r llygad a herio’r meddwl. Mae sbarion ewyn Polystyren a Polywrthen yn holi cwestiynau am eu gwneuthuriad gwydn a’r effaith mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mynediad am ddim, ac mae croeso i bawb.
Sinema Scala, 47 Stryd Fawr, Prestatyn LL19 9AH/ SJ065829
Richard Gallon sy'n cyflwyno ein pryfed cop brodorol yn ogystal â rhai rhywogaethau trofannol. Paned ar gael.
Gwarchodfa Natur Cemlyn, Gogledd Ynys Môn SH320037
Cemlyn ydi un o leoliadau arfodirol mwyaf eiconig Ynys Môn. Mae'n safle o bwysigrwydd rhyngwladol i adar môr, gyda phoblogaeth unigol bwysicaf Cymru o forwenoliaid pigddu i'w gweld yma. Hefyd, mae yma gyfleodd i weld llawer o fywyd gwyllt arall, ar y traeth ac yn nyfroedd arordirol Gogledd Ynys Môn. Bydd y daith gerdded yma gyda'r nos yn cynnig cyfle i ddysgu am fywyd y boblogaeth o adar môr wrth iddynt ddychwelyd i glwydo am y noson, ac archwilio cynefinoedd arfordirol. Hefyd bydd cyfle i weld morloi neu fywyd gwyllt hynod gyffrous arall efallai! 2filltir, 2awr, tir Cymedrol-Anodd.
Gwarchodfa natur Cemlyn, Gogledd Ynys Môn SH329937
Ymunwch â ni i archwilio Cemlyn ac i gyfrif cymaint o rywogaethau ag y gallwn! Dewch i weld os gallwn guro'r record yn ein 50fed blwyddyn.
Yn anffodus mae rhaid i ni ymddiheuro ac i’ch hysbysebu na fydd Byd Botaneg yn cymryd lle ar y 9fed o Fehefin yng Ngerddi Botanegol Treborth. Unwaith eto ymddiheurwn am unrhyw anawster mae hyn wedi neu all greu.
Tŷ Hyll, Betws y Coed
Llawer o weithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys gweithgareddau gwenyn, hawls i holi garddwyr, taith dywys a phlannu hadau.
Gawaith Powdwr, Penrhyndeudraeth LL48 6LT/ SH616388
Ymunwch â warden y warchodfa, Rob Booth, am daith gerdded gyda'r nos o amgylch y safle ôl ddiwydiannol yma sy'n ffinio ag Aber yr Afon Ddwyryd. Mae'n anodd gwybod sut bydd y tywydd a pha fyd natur welwn ni, ond ymhlith yr uchafbwyntiau efallai wrth y brif giât.
Cofiwch wisgo esgidiau addas ar gyfer tir garw, anwastad a chofiwch ddod â fflachlamp gyda chi. Rhai darnau serth.
£2 i Aelodau a £4 i bawb arall.
Conolfan Gymunedol Llanfwrog, Ruthun LL15 1LE/ SJ116578
Sgwrs gan Geoff Critchley ar gadw gwenyn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a sut mae ceidwaid gwenyn lleol yn ceisio gwarchod ein gwenynen fêl frodorol. Paned ar gael.
Welsh Mountain Zoo, Bae Colwyn, Conwy LL28 5UY
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymry'n ymuno â'r Sŵ Fynnydd Gymreig, sudd hefyd yn dathlu ei 50fed pen blwydd eleni, am noson o hwyl a gwledda! Hefyd byddwn yn cynnal gweithgareddau ditectif natur amrywiol i'r teulu, o hela trychfilod i fyw yn y gwyllt, a bydd y Sŵ yn darparu ei math arbennig ei hun o weithgareddau bywyd gwyllt escotig! Felly dewch fraw am dro ac i ymuno yn yr hwyl!
Tocynnau: £10- oedolion, £8- henoed a £5- plant.
Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw o'r Sŵ Fynydd Gymreig i archebu lle, ffoniwch 01492 532938.
Llanddulas SH905786
Rydyn ni gyd yn hoffi archwilio pyllau creigiog a pha well amser i wneud hynny nag ar un o lanwau isaf y flwyddyn? Ymunwch â ni i fwynhau archwilio'r pyllau yn un o'r llecynnau gorau yng Ngogledd Cymru, i ddod o hyd i'r creaduriaid rhyfedd a rhyfeddol sy'n byw ar hyd ein treathau. Cyfarfod ym maes parcio Ffordd y Traeth yn Llanddulas am 5:30pm neu ymynwch â ni y traeth ar unrhyw adeg rhwng 5:30pm a 7:30pm. Mae eich traed chi'n debygol o wlychu felly cofiwch wisgo esgidiau addas.
Gawaith Powdwr, Penrhyndeudraeth LL48 6LT/ SH616388
Ymunwch â warden y warchodfa, Rob Booth, am daith gerdded gyda'r nos o amgylch y safle ôl ddiwydiannol yma sy'n ffinio ag Aber yr Afon Ddwyryd. Mae'n anodd gwybod sut bydd y tywydd a pha fyd natur welwn ni, ond ymhlith yr uchafbwyntiau efallai wrth y brif giât.
Cofiwch wisgo esgidiau addas ar gyfer tir garw, anwastad a chofiwch ddod â fflachlamp gyda chi. Rhai darnau serth.
£2 i Aelodau a £4 i bawb arall.
Ymunwch â ni am daith gerdded gyda'r nos o amgylch y warchodfa ucheldir hardd. Gall cyflyrau Natur a'r tywydd fod yn anwadal, ond gall uchafbwyntiau gynnwys troellwr mawr, magïod ac ystlumod. Parcio a chyfarfod ym maes parcio Pwll Cyffty. Cofiwch wisgo esgidiau addas ar gyfer daear garw, anwastad a dewch â fflachlamp. Dewch ag ymlid gwybed a ffoniwch y swyddfa mewn tywydd garw. Dim cŵn, sori.
Canolfan Hanes Uwch Gwyrfai, Clynnog Fawr SH418498/ LL54 5BT (Neuadd yr Eglwys) a Chaeau Tan-y-Bwlch SH431488/ LL54 5DL (Gwarchodfa)
Mae ein dolydd gwair traddodiadol ynprysur ddiflannu. Byd cyflwyniadau a gwybodaeth ar gael yn y bore, i egluro pan fod y cynefinoedd hyn mor bwysig ac i sôn am reolaeth draddodiadol. Hefyd bydd te a chacennau ar gael! Yn y prynhawn bydd cyfle u ymweld â gwarchodfa ragoral YNGC a Plantife yng Nghaeau Tan-y-Bwlch a helpu i'w harolygu, i gyfrif y Tegertianay Llydanwyrdd Mwyaf yng nghwmni Dr Trevor Dines, a welwyd yn ddiweddar ar y gyfres 'Wild Things' ar Channel 4.
Cysylltwch â Rob yn Swyddfa Bangor i gael rhagor o fanylion a chyfarwyddiadau.
Gawaith Powdwr, Penrhyndeudraeth LL48 6LT/ SH616388
Ymunwch â warden y warchodfa, Rob Booth, am daith gerdded gyda'r nos o amgylch y safle ôl ddiwydiannol yma sy'n ffinio ag Aber yr Afon Ddwyryd. Mae'n anodd gwybod sut bydd y tywydd a pha fyd natur welwn ni, ond ymhlith yr uchafbwyntiau efallai wrth y brif giât.
Cofiwch wisgo esgidiau addas ar gyfer tir garw, anwastad a chofiwch ddod â fflachlamp gyda chi. Rhai darnau serth.
£2 i Aelodau a £4 i bawb arall.
Gwarchodfa natur Y Ddôol Uchaf, ger Dinbych SJ142713
Ymynwch â ni am weithdy ble byddwn yn edrych ar sut mae adnabod glaswelltau, hesg a brwyn gyda Dr Hilary Ash.
Dewch â phecyn cinio gyda chi a lens llaw os oes gennych chi un.
£5 y pen. I archebu lle, ffoniwch 07599 102138
Glynne Arms, Penarlâg CH5 3NS
Dewch i ymuno â ni am ddiod yn y dafarn bentref hyfryd hon, ble bydd Swyddog Cadwraeth gydag YNGC, Adrian Lloyd Jones, yn rhoi sgwrs ar ailgyflwyno afancod yng Nghymru. Mae bwyd a diod ar gael yn y dafarn.
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen LL53 6NL
Dewch i fod yn dditectif natur am y diwrnod! Ymunwch â ni i chwilota am bryfaid, byw'n wyllt, chwilota glan y môr a llawer mwy yn yr ardal hyfryd yma ar lan gogleddol y Llŷn.
Y Califfornia, Brynteg LL78 8JQ/ SH 495825
Ymunwch â ni ar ymweliad maes rhyfeddol i glywed am gynnydd y gwaith adfer mawr ar Gors Erddreiniog. Dewch â phecyn bwyd gyda chi i ginio. Bin cŵn, sori.
Neuadd Powis, Bangor, LL57 2DG
Cyngerdd Cerddoriaeth Siambr gan Bumawd Chwyth Menai a'u gwesteion. Mynediad am ddim ond bydd casgliad er budd YNGC.
Cerrig yr Adar, Rhoscolyn LL65 8RA/ SH 278 756
Mwynhewch daith gerdded odidog ar hyd y pentir a throi o amgylch y gerddi a'r pwll cyn ymlacio gyda mefus a hufen, teisennau a choffi. Stondin blanhigion dewch a phrynu.
£5 y pen, Plant £2.50 (yr elw i gyd i YNGC).
Gwarchodfa Rhiwledyn, Llandudno SH814820
Taith ar y cyd â changen Dyffryn Conwy. Ymunwch â ni i gerdded yng ngwarchodfa Rhiwledyn i weld rhai o blanhigion diddorol y glaswelltir calchfaen ac Adar Drycin y Graig yn nythu. Mae'r maes parcio agosaf yn SH814818 ar Ffordd Bryn-y-Bia (byddwch yn ofalus iawn wrth groesi'r fford fawr). Dim cŵn, sori.
Fferm Bodior, Rhoscolyn SH274768
Cyfle i archwilio Fferm Bodio, enillydd diweddar Gwobr Cornchwiglen Arian a fferm sy'n cynhyrchu eidion a werthir o dan y brand Cynnyrch Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt. Dan arweiniad Rheolwr y Fferm, Frank roberts.
Dim cŵn, sori.
I archebu lle, ffoniwch 01248 713022
Gwarchodfa Natur Eithinog, ger Bangor SH563713
Cyfle i achwilio ein Gwarchodfa Natur ddiweddaraf. Dewch i'n cyfarfod ym Mynedfa'r Warchodfa.
Canolfan Gymunedol David Hughes, Biwmares LL58 8LR
Cofnod drwy luniau o amgylchedd a bywyd gwyllt naturiol arbennig Ynys Môn.
Darperir lluniaeth.
£2 y pen.
Rhyd y Clafdy ar y B4451, ger Pwllheli SH329349
Ymunwch â ni am daith gerdded hamddenol ddechrau'r haf yng nghefn gwald a chewch gyfle i ddysgu adnabod cân yr adar cyffredin yn yr ardal. Croeso i ddechreuwyr. Cofiwch wisgo dillad addas a dod â phecyn bwyd chi i ginio. Ffoniwch am gyfarwyddiadau manylach.
I archebu lle, ffoniwch 01248 351541.
Glan y Gorllewin, Llandudno SH770821
Cyflwyniad i'r pryfyn diddorol yma, gyda cyfle i weld llawer iawn ohonynt! Dewch yn barod i gerdded tua 2 i 3 milltir a neith barhau am 2 i 3 awr, Gwisgwch dillad ac esgidiau addas, dewch a fflachlamp, mae'n rhaid i blant fod gydag oedolyn. Dim Cŵn, sori.
Gardd Fotaneg Treborth, ger Bangor SH551711
Cyfle i efrych ar gasgliadau planhigion Treborth yn y gerddi, y tai gwydr ac ar lwybr yr arfordir wrth Afon Menai. Byddwn yn chwilio am wyfynod, pryfed eraill ac adar hefyd.
Dim cŵn, sori.
Y Gogarth, Llandudno SH769836
Ymunwch â ni am daith hudolus o amgylch y gogarth. Dyma Gyfle i ddysgu adnabod rhai o blanhigion y palmant a'r glaswelltir calchfaen.
Niwbwrch, Ynys Môn SH426648
Taith dywys ydi hon gyda'r Rheolwr, Graham Williams, i ddarganfod planhigion ac anifeiliaid yr amgulchedd diddorol ac unigryw yma o dwyni. Cyfarfodwch ni ym maes parcio Llyn Rhos-ddu.
Gwarchodfa natur Rhiwledyn, Llandudno SH814820
Taith ar y cyd a changen Meirionnydd. Cyfle i astudio diddorol y glaswelltir calchfaen gyda pheth arweiniad arbenigol. Mae'r maes parcio agosaf yn SH814818 ar Ffordd Bryn-y-Bia. Cymerwch ofal wrth groesi'r ffordd fawr! Cyfarfod yn y warchodfa.
Hafod-y-Llan, Beddgelert SH 627507
Ymunwch â ni am daith dywys drwy'r coetir rhyfeddol yma sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Amlwch, Gogledd Ynys Môn SH437905
Cyfle i weld treftadaeth ryfeddol y gwaith mwyngloddio copr yn yr ardal a'r planhigion anhygoes sy'n gysylltiedig â'r safle hwn.
Cilfan ger Tir Stent, ger Dolgellau SH753173
Ymunwch â ni ar daith gerdded i fwynhau blodau gwyllt y rhan hardd yma o'r byd. Gall fod yn wlyb iawn o dan draed.
Llyn Tegid, Y Bala SH925355
Ymunwch â ni i archwilio bywyd gwyllt rhyfeddol glannau Llyn Tegid. Dewh i'n cyfarfod yn Swyddfa'r Warden ym mhen Y Bala i'r llyn. Dewch â phicnic.
Maes Parcio Traeth Presthaven, SJ090841
Ymunwch â ni i archwilio'r cynefin rhagorol yma a chewch weld tegeirianau a blodau eraill, gwenyn, cacwn a glöynnod byw, a threulio peth amser yn gwylio'r boblogaeth fechan o forwenoliaid. Os byddwn ni'n lwcus, efallai y gwelwn ni benybyliaid y llyffant cefnfelyn a madfallod hefyd!
Worthenbury, I'r De o Wrecsam SJ419462
Dewch i weld y dolydd gwair llawn blodau sy'n amgylchynu Worthenbury Brook, ac i weld Llyn Ox-Bow a chadw llygad ar hyd yr Afon Ddyfrdwy an Las y Dorlan.
Parc Gwledig Waun-y-Llyn, Mynydd yr Hob SJ286576
Ymunwch â ni am daith gerdded i chwilio am rywogaethau gwych yr ucheldir. Byddwn yn astudio amrywiaeth o blanhigion, adar a phryfed yr ucheldir, ac yn cael cyfle i fwynhau golygfeydd godidog.
Cyfarfod yn y Maes Parcio.