Cafodd adroddiad yr Ymddiriedolaethau Natur - 'Energy at any price?' - ei lansio Ddydd Mawrth 2 Mawrth yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd eithriadol Môr Hafren, i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt. Wrthi i'r Llywodraeth ystyried gwahanol gynigion ar gyfer defnyddio ynni'r llanw i gynhyrchu trydan, mae'r Ymddiriedolaethau Natur o'r farn y byddai codi morglawdd hen-ffasiwn yn cael effaith niweidiol dros ben. Yn hytrach, dylai'r Llywodraeth fynd ati o ddifrif i ymchwilio i dechnoleg fodern o fath arall a fyddai'n arwain at effeithiau llai niweidiol.
Ym marn yr Ymddiriedolaethau Natur, mae tri o ddewisiadau arloesol* yn dangos addewid. Yr hyn ddylai fod wrth wraidd y penderfyniad yw pa gynllun fydd yn arwain at y niwed amgylcheddol lleiaf a pha un fydd yr un mwyaf cost-effeithiol. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur eisiau gwneud yn siŵr na fydd y dewis terfynol yn rhywbeth y bydd y gymdeithas yn edifarhau yn ei gylch mewn degawdau i ddod.
Mae Môr Hafren yn hafan i bysgod masnachol ifanc. Hefyd mae'n hwyluso cludiant a masnach. Caiff nifer o weithgareddau hamdden eu gwneud yno, a daw'r lle â phleser i bobl o bob oed. Yn wir, caiff pwysigrwydd yr aber i fywyd gwyllt ei gydnabod gan gyfraith y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd, a hynny ar sail y rhywogaethau rhyngwladol bwysig a'r cynefinoedd helaeth sydd i'w cael yno. Trwy adeiladu morglawdd, fe fyddai'r Llywodraeth yn torri'u haddewid i warchod y bywyd gwyllt yma hyd eithaf eu gallu.
Yn ôl Joan Edwards, Pennaeth Moroedd Byw ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur: "Nid gormod yw dweud bod Môr Hafren yn rhan gwbl anhepgor o dreftadaeth naturiol y Deyrnas Unedig.
"Mae'n system ddynamig sy'n effeithio ar fywydau pob un ohonon ni. Rydyn ni eisiau atgoffa pawb beth mae Môr Hafren yn ei olygu - mae'n rhan o'n treftadaeth ddiwylliannol ac yn rhan fawr o'n presennol hefyd. Mae pobl yn dibynnu ar yr ardal i gael bywoliaeth. O'r herwydd, mi fydd ein haelodau'n siŵr o gamu i'r adwy.
"Allwn ni ddim ystyried ein hanghenion ynni heb roi ystyriaeth hefyd i'r amgylchedd. Mae newid cynefin rhynglanwol Môr Hafren mor beryglus. Yn foesol, rhaid inni wneud yn siŵr mai'r opsiwn sydd orau i'r amgylchedd naturiol gaiff ei ddewis. Ddylen ni ddim ystyried hen dechnoleg a allai effeithio ar Fôr Hafren ar raddfa na welwyd mo'i thebyg erioed o'r blaen.
"Mi fyddai dinistrio Môr Hafren - wythfed rhyfeddod y byd, yn ôl rhai - yn bechod marwol. Rydyn ni angen eich cefnogaeth chi i warchod y lle unigryw yma - ymunwch â ni i achub yr aber!"
Ymunwch â'r Ymddiriedolaeth Natur i achub yr aber:
Ymunwch â'n hymgyrch - edrychwch ar wildlifetrusts.org i gael newyddion, datblygiadau a manylion penodol ynglŷn â sut allwch chi helpu.
Ewch ati i wirfoddoli - os ydych chi'n byw yng Nghymru neu yn Ne Orllewin Lloegr, neilltuwch amser i helpu'r ymgyrch.
Mwynhewch yr aber - ac ewch am dro i warchodfeydd natur lleol yn yr ardal.
|
Click below to view The Wildlife Trusts' three short films about the Severn: |
|
|
|
|
|
|
|
![]() |
|
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Anna Guthrie, Rheolwr y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, 01636 670075 / 07887 754659 aguthrie@wildlifetrusts.org
Tanya Perdikou, Swyddog y Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, 01636 670057 / 07887 754657 tperdikou@wildlifetrusts.org
Nodiadau ar gyfer golygyddion

Môr Hafren a'r Ymddiriedolaethau Natur
Ceir 228 o warchodfeydd natur yn y rhanbarth sy'n berchen i'r Ymddiriedolaethau Natur neu sy'n cael eu rheoli gan y mudiad - cyfanswm o 3,450 hectar.
Mae yna 17 o gynlluniau Tirweddau Byw i'w cael, sy'n ymdrin â 372,700 hectar (1,400 milltir sgwâr).
Mi fyddai'r morglawdd yn effeithio ar hyd at 16 o warchodfeydd natur cenedlaethol - 7 o'r rhain ar lannau'r afon.
Eger Hafren
Oddeutu 80 gwaith y flwyddyn mae'r llanw, ynghyd â siâp twmffat yr aber, yn creu rhywbeth o'r enw Eger Hafren - gan roi cyfle ichi syrffio ar ddŵr croyw am chwe milltir a mwy.
Mae gan Fôr Hafren amrediad llanw o 14 medr - sef y gwahaniaeth yn uchder y dŵr rhwng y llanw mawr a'r llanw bach. Dyma'r amrediad llanw mwyaf ond un drwy'r byd.
Mae'r amrediad llanw mwyaf un i'w gael ym Mae Fundy ar arfordir dwyreiniol Canada, ac mae hwn yn 16 medr.
Amcangyfrifir bod 10,000,000 o dunelli o waddodion yn cael eu cario i'r aber yn ystod llanw mawr.
Bydd 69,000 o adar yn ymweld â'r ardal, gan ddod yma i chwilio am loches rhag gaeaf yr Arctig neu stopio yma i gael bwyd wrth ymfudo.
Mae Môr Hafren yn 24,700 hectar o faint - un o'r aberoedd mwyaf yn Ewrop.
Mae 20,958 hectar o wastadeddau llaid a gwastadeddau tywod i'w cael yma - y llecyn mwyaf ond tri o'i fath drwy'r Deyrnas Unedig.
Mae gwaddodion sy'n dyddio'n ôl 5,000 o flynyddoedd i'w cael yn yr aber - cofnod geomorffolegol ac archeolegol pwysig.
Mae 1,500 hectar o greigiau, clogfeini, olion cerrig crynion/gwelyâu misglod, pyllau creigiog a graean i'w cael yma.
Ceir 1,400 hectar o forfeydd heli - y llecyn mwyaf o'i fath drwy Dde Orllewin Lloegr.
Mae mwy na 100 o wahanol fathau o bysgod i'w cael yn yr aber.
Ceir 10 o fathau gwahanol o bysgod masnachol yma, gan gynnwys penwaig, penfreision, lledod cochion, lledod chwithig, gwyniaid môr, swtanod gleision, cegdduon, mecryll, honosiaid a chwitlyniaid gleision
* Cynllun Egin-Dechnolegau Môr Hafren. Fel rhan o gynllun y Llywodraeth i ddefnyddio'r amrediad llanw mwyaf ond un drwy'r byd - 14 medr - aeth Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ati i gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn asesu deg o ddewisiadau arfaethedig. Erbyn hyn, mae'r rhain wedi'u lleihau i bum cynllun, ond ni chynhwysir y rhai a allai, ym marn yr Ymddiriedolaethau Natur, effeithio llai ar yr amgylchedd. Wrth ddatblygu ac ymchwilio i'r dewisiadau hyn ymhellach, fe ellid eu rhoi ar y rhestr fer eto yn nes ymlaen - os bydd modd eu datblygu mewn pryd.
Caiff Môr Hafren ei gydnabod gan gyfraith y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r byd. Mae rhan helaeth o'r ardal wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Safle Ramsar (gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol), yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig.