Help llaw i Binc Deptford

deptford pinkRydym wedi bod yn gwneud gwaith pellach er budd y boblogaeth o Binc Deptford (Dianthus armeria) sy'n tyfu ar ddim ond un safle yng Ngogledd Cymru - gwarchodfa natur Coed y Felin yn Hendre, Sir y Fflint. Mae Pinc Deptford yn sefydlu'n fuan iawn mewn cynefin ac yn hoff o ddaear noeth. Mae hefyd yn tueddu i ffafrio llethrau heulog, calchaidd. Mae'n hawdd iawn ei gysgodi wrth i lwyni a choed dyfu o'i amgylch ac felly mae angen rheolaeth dda er mwyn cynnal y boblogaeth yng Nghoed y Felin.
Fis Ebrill eleni, bu staff a gwirfoddolwyr yn clirio coed a llwyni bychain er mwyn atal y cysgod ac i greu darnau clir o ddaear o amgylch y Pinc Deptford, fel bod hadau'r haf hwn yn syrthio ar bridd delfrydol ar gyfer egino.

Meddai Simon Farr, Swyddog y Gwarchodfeydd, "O ganlyniad i'n gwaith rheoli, rydym wedi gweld ein poblogaeth o Binc Deptford yn cynyddu ddeg gwaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond y llynedd dechreuodd ostwng wrth gystadlu gyda phlanhigion eraill. Fodd bynnag, bydd y gwaith rydym wedi'i wneud eleni yn sicrhau bod y boblogaeth yn ailddechrau tyfu ac rydym yn hyderus bod dyfodol y planhigyn yn ddiogel."