Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi datblygu prosiect a fydd o fudd i bathewod, corystlumod a gwiwerod coch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau LBAP yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, mae tiwbiau nythu i bathewod wedi'u gosod mewn coetiroedd sydd wedi'u dethol yn ofalus, er mwyn darganfod poblogaethau newydd o bathewod. Bydd y tiwbiau hyn yn cael eu monitro am dair blynedd am dystiolaeth o bresenoldeb pathewod.
Mae'r prosiect wedi galluogi i Grŵp Ystlumod Clwyd osod blychau ystlumod mewn coetiroedd niferus ledled Gogledd Ddwyrain Cymru, er budd y corystlumod.
Wedi gweld gwiwerod coch yn ne Sir Ddinbych, bydd tiwbiau dal blew arbennig yn cael eu gosod mewn coetiroedd addas yn yr ardal. Bydd y blew fydd yn cael ei ddal yn y tiwbiau'n cael ei ddadansoddi i weld a yw wedi dod oddi ar wiwerod coch, er mwyn cadarnhau eu presenoldeb yn yr ardal.
Cysylltwch ag Adrian Lloyd Jones yn ein swyddfa yn Nhafarn-y-gelyn am wybodaeth bellach neu i gymryd rhan mewn prosiectau tebyg.