Cyfle diarh-ebol o dda. Cyhoeddi gwerthu ebolion unigryw

 

 

Carneddau Ponies

Cynhelir sel ebolion Mynydd Cymreig ar y 5ed o Ragfyr yn Nhyn Llwyfan, Llanfairfechan.

Yr anifeiliaid hyn yw stoc dros ben y greoedd a fu'n crwydro Mynyddoedd Carneddau rhwng Conwy a Bethesda ers yr Oes Efydd.

 

Bu greoedd o'r creaduriaid gwydn, hardd hyn yn eiddo i genedlaethau'r saith teulu yng nghymdeithas merlod Carneddau (CMYCC) ac erbyn hyn dim ond tri chant o gesig sydd ar ôl. Oherwydd rheoliadau adnabod newydd, mae'n rhaid i'r anifeiliaid gael microsglodyn pan fyddant yn gadael y mynyddoedd felly mae'r arwerthiant wedi'i drefnu fry uwchben y pentref.

 

Sior and BumblebeeMae'r merlod yn chwarae rhan hanfodol yng nghydbwysedd ecolegol bregus y mynyddoedd drwy eu pori sy'n creu'r amodau i anifeiliaid, adar, gan gynnwys ehedyddion a brain coesgoch, ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae'n rhaid cadw niferoedd yn sefydlog i gynnal y cydbwysedd hwn felly mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gytundeb rheoli â Chymdeithas Merlod Carneddau i reoleiddio'r greoedd a bydd yr anifeiliaid nad oes eu hangen i gynnal y greoedd yn cael eu gwerthu.

 

Bydd y merlod yn cael eu trin yn ofalus cyn yr arwerthiant mewn menter newydd a sefydlodd Pori Natur a Threftadaeth (PONT) lle daw hyfforddwr o Dartmoor i addysgu technegau trin i'r bridwyr a phlant lleol yn eu harddegau. Mae hyn yn golygu y bydd yr ebolion yn haws eu rheoli, eu tywys a'u llwytho.

 

PortraitMae merlod Carneddau nodweddiadol yn sefyll tua 11 dyrnfedd o uchder, ar goesau cryfion, cadarn. Mae ganddynt glustiau twt o siâp deilen saets a phersonoliaeth fawr! Nid ydynt byth yn cael eu trin felly cânt eu categoreiddio'n lled-wyllt. Pan fyddant oddi ar y bryniau, gellir dofi'r merlod yn llwyddiannus i wneud merlod marchogaeth da i blant, maent yn ddelfrydol i gynlluniau pori lleol ac wedi profi eu hunain yn adnodd hanfodol ar lawer o safleoedd ar Ynys Môn a'r tu hwnt oherwydd eu nodweddion pori a'u gallu i ffynnu ar dir gwael. Gellir eu cofrestru yn ferlod mynydd Cymreig cymysgryw a'u defnyddio i wella asgwrn mewn rhaglenni bridio. Mae merlen unigryw Carneddau wedi chwarae rhan bwysig yn ffurfio ac yn cynnal tirw

 

edd a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal ac fel atyniad i dwristiaid yn cael ei gwerthfawrogi gan gerddwyr ac ymwelwyr ag Eryri. Meddai Gareth Jones, ysgrifennydd CMYCC, "Dewch i gefnogi'r arwerthiant hwn a helpu i sicrhau dyfodol y merlod i genedlaethau i ddod."

 

 

Find out more:

www.carneddauponies.co.uk

www.agap-ynysmon.co.uk

www.grazinganimalsproject.org.uk/pont_home

Downloads:

Sale Poster (English) 1 (Welsh) 1

Sale Poster (English) 2 (Welsh) 2

Sale Catalogue


Pencadlys

376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YE
Ffôn:01248 351541 Ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org
Elusen gofrestredig rhif 230772