Prosiect SIARC yn ennill Prosiect y Flwyddyn Cymru y Loteri Genhedlaethol 2023

Prosiect SIARC yn ennill Prosiect y Flwyddyn Cymru y Loteri Genhedlaethol 2023

Small-spotted catshark ©Alex Mustard/2020VISION

Ymwelodd Iolo Williams, yr arbenigwr Bywyd Gwyllt â Marina Pwllheli heddiw i goroni Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn swyddogol fel Prosiect y Flwyddyn Cymru yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023....a rydym ni'n falch iawn bod yn rhan o'r prosiect! Fel un o bartneriaid Brosiect SIARC, rydym yn gweithio gyda gwyddonwyr dinesig i gofnodi nifer a mathau o bwrsys fôr-forwyn yma yng Ngogledd Cymru.

Wedi’i sefydlu yn 2021, cydweithrediad rhwng partneriaid lluosog yw Prosiect SIARC dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Chyfoeth Naturiol Cymru, a’i nod yw diogelu rhywogaethau prin o siarcod a morgathod (a adwaenir fel elasmobranciaid) oddi ar arfordir Cymru tra’n meithrin gwerthfawrogiad newydd at yr amgylchedd tanddwr yng Nghymru.

Roedd y prosiect wedi trechu cystadleuaeth lem oddi wrth 3,780 o sefydliadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni - yr ymgyrch flynyddol i ganfod pobl a sefydliadau ysbrydoledig ar draws y DU sydd wedi gwneud pethau anhygoel gydag arian y Loteri Genedlaethol. Daeth Prosiect SIARC i’r amlwg yn fuddugol fel enillydd Cymru wedi’r bleidlais.  

SIARC

Project SIARC © National Lottery 

Mae’r amgylchedd morol ar hyd arfordir Cymru yn llawn bywyd ac yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau morol, gan gynnwys 27 rhywogaeth o siarcod a morgathod. Mae hyn yn cynnwys pedair rhywogaeth a restrir fel bod mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Rywogaethau Natur (IUCN) o Rywogaethau Dan Fygythiad (y categori uchaf cyn bod yn ddiflanedig yn y gwyllt): maelgi, morgi glas, morgath drwynfain a’r forgath las.

Mae Prosiect SIARC yn gwneud y cyfan y gall i wneud pethau hyd yn oed gwell, a gyda cefnogaeth oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bwriad y prosiect yw gwella dealltwriaeth am siarcod a morgathod prin, a galluogi ystod ehangach o bobl i ddarganfod yr amgylchedd morol anhygoel yma yng Nghymru. Mae noddwyr eraill yn cynnwys Llywodraeth Cymru, y Gronfa Rhwydweithiau Natur ac On the Edge.  

Mae Prosiect SIARC yn gorchuddio ardal eang ac yn gweithredu led led Cymru, ond mae’r ymchwil a'r gwaith a gynhelir ochr yn ochr â chymunedau lleol yn canolbwyntio ar ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig  (ACA): ‘Pen Llŷn a’r Sarnau’ yng ngogledd Cymru a ‘Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd’ yn ne Cymru. Mae’r ymchwil wedi cynnwys arolygon DNA amgylcheddol (eDNA), gan weithio gydag eiconegwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu mwy am y rhywogaethau siarcod a morgathod sy’n bresennol o fewn yr ACAau. 

Gyda help pysgotwyr, cymunedau, ymchwilwyr a gwyddonwyr dinesig led led Cymru a’r DU, mae’r prosiect yn llenwi’r bylchau data allweddol ar gyfer chwe rhywogaeth o siarcod a morgathod.

Gan gyflwyno’r rhaglen ddyfeisgar i’r gymuned, mae Prosiect SIARC yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu gyda chenhedlaeth newydd o gadwraethwyr morol trwy sesiynau rhyngweithiol i ysgolion cynradd, gan gynnwys sesiynau ‘Cwrdd â’r Gwyddonwyr’ a dysgu sut i wneud argraffiad 3D o fodelau siarcod gyda Phrifysgol Abertawe. Mae nifer o adnoddau dwyieithog i blant ysgol wedi cael eu datblygu, gan gynnwys eLyfr i archwilio’r maelgwn yng Nghymru. Mae mwy na 3,000 o aelodau’r cyhoedd a 600 o blant ysgol wedi ymgysylltu gyda gwaith y prosiect hyd yn hyn.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 66 o rywogaethau pysgod wedi cael eu ffilmio gan Systemau Fideo o Bell gydag Abwyd (BRUVS). Er mwyn casglu’r ffilmiau tanddwr, mae gwyddonwyr Prosiect SIARC wedi gweithio gyda physgotwyr lleol i osod y systemau BRUVS hyn, sydd wedi’u gwneuthuro gan Blue Abacus, yn strategol.

Hyd yn hyn, mae tua 200 awr o ffilmiau wedi cael eu logio a’u huwchlwytho ar wefan Instant Wild y ZSL, gan helpu i adeiladu darlun o’r amrywiaeth o rywogaethau ar draws y DU gyda chipolwg unigryw ar fywyd o dan ddyfroedd arfordir godidog Cymru.  

Ynghyd ag annog pobl i gymryd rhan ar-lein, mae cannoedd o wirfoddolwyr yng ngogledd Cymru wedi bod yn cribo arfordir Cymru gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i gasglu cofnodion gwerthfawr o gasys wyau’r siarcod a morgathod trwy brosiect gwyddoniaeth i ddinasyddion gyda Helfa Casys Wyau’r Ymddiriedolaeth Siarcod. Nod y gwaith yw ennill syniad o ba rywogaethau sy’n bridio allan yn y môr. Mae Prosiect SIARC yn ymroddedig tuag at greu cyfleoedd mwy cydradd a chynhwysol i bawb ac wedi estyn y gwaith yn ddiweddar i weithio gyda phartneriaid o fewn y prosiect sef Minorities in Shark Sciences i helpu gwneud cynnydd pellach gyda’r gwaith hwn.

Roedd Iolo Williams, Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, wedi ymweld â Phrosiect SIARC heddiw ym Mhwllheli i ddysgu mwy am eu gwaith anhygoel a chyflwyno eu tlws eiconig iddynt.

Dywedodd: “Mae’r arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da wedi chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y prosiect. Mae’n anrhydedd i mi gyflwyno’r wobr llwyr haeddiannol hon iddynt.

Mae ein dyfroedd morol yn rhan allweddol bwysig o’n hecosystem felly mae’n wych gweld mentrau fel hyn yn chwarae rôl mor hanfodol wrth ddiogelu’r rhywogaethau prin hyn gan ysbrydoli ac addysgu pobl o bob oed am y creaduriaid unigryw amrywiol sy’n byw oddi ar arfordiroedd Cymru. Mae’n gwbl allweddol i oroesiad ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd yn y dyfodol oherwydd dim ond trwy addysgu, cysylltu ac ail-gysylltu pobl gyda natur y gallwn annog stiwardiaeth well o’n moroedd a gwyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.”

Dywedodd Joanna Barker o ZSL, sef Arweinydd Prosiect SIARC: “Mae ennill y Wobr hon oddi wrth y Loteri Genedlaethol yn dangos pwysigrwydd ymgorffori gwybodaeth a lleisiau’r gymuned leol o fewn cadwraeth forol yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni. Mae’n gydnabyddiaeth wych i bawb sydd wedi ymrwymo eu hamser ac ymdrech i ddiogelu’r rhywogaethau hyn a chodi ymwybyddiaeth am ran allweddol o dreftadaeth naturiol Cymru. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn; rydym yn eithriadol o ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i derbyn oddi wrth ein holl noddwyr a phartneriaid.”

Cafodd Jake Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru & ZSL sy’n Arbenigwr Technegol Prosiect SIARC, ei fagu ar Benrhyn Llŷn ac mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â physgotwyr i ganfod y mannau gorau i sefydlu camerâu tanddwr sy’n dal yr holl ffilmiau.

Dywedodd Jake: “Rydym yn dîm o bobl ymroddedig sy’n gweld y gwaith yma’n wirioneddol werth chweil ac mae wedi bod yn bleser pur i weithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr a physgotwyr gwych ynghyd â grŵp anhygoel o bartneriaid led led Cymru ers i ni gael ein lansio.  

Mae ennill y wobr hon yn anhygoel ac rwyf wrth fy modd i allu chwarae rhan wrth ddod â’r byd tanddwr hwn i mewn i gartrefi pobl ac ysgolion, gan alluogi cymunedau i gymryd rhan mwy yn eu hamgylchedd morol lleol.”

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd tuag at achosion da led led y DU bob wythnos, sydd yn ei dro yn helpu mentrau megis Prosiect SIARC i barhau i gynnal gwaith anhygoel yn eu cymunedau.