Primary school beaver education resource

beaver wildlife trust

David Parkyn

Afancod yng Nghymru – lawrlwythwch eich pecyn adnoddau addysg am ddim

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi partneru â Lafan Consulting i gynhyrchu pecyn cymorth addysg newydd Afancod yng Nghymru ar gyfer ysgolion cynradd ledled Cymru sydd ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol AM DDIM.

Mae’r pecyn bympar darluniadol 40 tudalen hwn yn llawn gweithgareddau dysgu, gemau a heriau gan gynnwys ‘Beaver Board Game, ‘Beaver Dam Challenge’ a ‘Beaver History and Legends’.

Lawrlwythwch pecyn Cymraeg

Lawrlwythwch pecyn Saesneg

Mae afancod yn enghraifft wych o’r cysylltiad rhwng popeth ym myd natur a gellir ymgorffori eu hastudiaeth mewn llawer o bynciau yn y cwricwlwm. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pob plentyn yn mwynhau dysgu am afancod a’r gwaith gwych y maent yn ei wneud o’r pecyn addysg ‘Afancod yng Nghymru’ hwn.
Iolo Williams, naturiaethwr arobryn, cyflwynydd teledu bywyd gwyllt ac Is-lywydd yr Ymddiriedolaeth

*Cynlluniwyd a chynhyrchwyd Adnodd Dysgu Afanc yng Nghymru gan Meinir Lloyd Jones, Ymgynghorydd Addysg Arweiniol o Lafan Consulting. Mae gan Meinir gefndir ym myd addysg fel cyn bennaeth ac fel Arolygydd Estyn. Wedi’i wreiddio yng Nghymru, sefydlwyd Lafan Consulting yn 2020 i weithio gyda chleientiaid a phartneriaid i ddod â phobl ynghyd, cyflwyno syniadau, gweithio ar atebion ac arloesi.

European Agricultural Fund for Rural Development

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.