Mwy na haelioni: mae Partneriaid Naturiol yn fusnes pwysig
Mae ein cynllun newydd ni – Partneriaid Naturiol – yn eich gosod chi wrth galon ein gweithgareddau. Bydd yn helpu eich busnes i gyflawni ei amcanion ac yn dangos eich ymrwymiad chi i’n hamgylchedd ni i gyd. Mae Partneriaeth Naturiol yn cynnig manteision i bawb. Bydd ein prosiectau bywyd gwyllt niferus yn derbyn y cyllid y maent ei angen yn fawr a bydd eich cwmni chi’n mwynhau pecyn llawn o fanteision.
Gall dod yn Bartner Naturiol eich helpu chi i gyflawni gofynion eich Polisi Cyfrifoldeb Corfforaethol, gwella proffil eich cwmni, gwella delwedd eich brand a chyrraedd marchnadoedd newydd. Yn bwysicach na dim, mae hefyd yn gallu cynnwys ac ysbrydoli eich staff. Waeth beth yw maint eich busnes a waeth pa mor fawr yw eich trosiant, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio pecyn delfrydol i ddiwallu eich anghenion.
Mae dau fath o Bartneriaeth Naturiol ar gael: pecyn pwrpasol wedi’i greu’n arbennig ar gyfer anghenion eich busnes neu ddetholiad o’n hystod o opsiynau aelodaeth corfforaethol (mae pob partneriaeth yn cael ei hadnewyddu’n flynyddol). Ar gyfer y ddau fath, y cam cyntaf yw cysylltu â Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Codi Arian YNGC, ar 01248 351541 neu graemecotterill@wildlifetrustswales.org
![]() Iolo Williams, Naturiaethwr a Darlledwr |
Bydd Partneriaeth Naturiol gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gallu eich helpu chi gyda’r canlynol:
- Gwella cydnabyddiaeth gyhoeddus
- Dangos eich ymrwymiad i fuddsoddi yn eich cymuned leol
- Ennill achrediadau amgylcheddol cydnabyddedig
- Denu a chadw gweithlu brwd o safon uchel
- Rhwydweithio gyda busnesau ac unigolion eraill sydd â’r un feddylfryd
- Tendro am gontractau mwy effeithiol, ennill cydnabyddiaeth amgylcheddol
- Cyflawni cyfrifoldebau corfforaethol a pholisïau amgylcheddol
Dyma rai o’r manteision ymarferol a gynigir:
- Ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus i ddathlu eich bod yn cymryd rhan ac i roi cyhoeddusrwydd i’ch cwmni
- Sylw yn y cylchgrawn ac ar y we i’ch busnes
- Gwasanaethau ymgynghorol amgylcheddol
- Pecyn atyniadol o ostyngiadau i’ch staff
- Cyfleoedd rhwydweithio corfforaethol amhrisiadwy
- Cyfle i noddi gwarchodfeydd, digwyddiadau a phrosiectau cymunedol
- Tystysgrif partneriaeth a llu o gyhoeddiadau am ddim
- Cyfleoedd i wirfoddoli ac ymweliadau arbennig â’n gwarchodfeydd
- Cyfle i gysylltu â’n miloedd o aelodau
Airbus yn y DU "Rydyn ni’n credu mewn meddwl yn fyd-eang a gweithredu yn lleol. Mae ein gweithwyr wedi gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiectau sy’n helpu plant i ddeall sut gallant gyfrannu at ddyfodol gwyrdd. Mae pawb ar eu hennill, gan ddangos busnes a chadwraeth yn gweithio law yn llaw, gyda manteision i ni i gyd." ![]() Phil McGraa, Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol |
Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd "Mae Toyota wedi ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau lleol i wella a hyrwyddo'r amgylchedd rydym yn gweithredu ynddo. Drwy weithio gydag YNGC fel Partner Naturiol, rydym wedi elwa'n fawr o'u harbenigedd a'u profiad ac, yn eu tro, felly hefyd ein haelodau, eu teuluoedd a'u cymunedau. Rydym yn falch o gael ein gweld fel cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth ac yn cydnabod pwysigrwydd annog a meithrin diddordeb mewn bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, sydd o'n cwmpas ni ym mhob man ![]() Martin Fry, Arbenigwr, Gwaith Injan Glannau Dyfrdwy |
Sw Môr Môn "Drwy weithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel Partner Naturiol, rydyn ni wedi gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach, hybu ein hethos a’n brand a helpu i arddangos gwaith cadwraeth rhagorol ar lawr gwlad. Fel Llysgenhadon Moroedd Byw, rydyn ni wedi gallu ![]() Dr Dylan Evans, Cyfarwyddwr a Chydlynydd Ymchwil |
Downloads
Filename | File size |
---|---|
Partneriaid Naturiol | 1.46 MB |