Chwarel Minera – perchnogion o’r diwedd!

Chwarel Minera (c) Simon MillsChwarel Minera (c) Simon Mills

Ar ôl amser maith, mae’r llofnodion ar y dogfennau. Darganfyddwch sut a pam ymweld ac yma.

Please note: Minera Quarry is not yet officially open to the public as essential safety work is currently underway.

Chwarel wag ydi Chwarel Minera, tua 40 hectar o dir ger Minera, Coedpoeth, Gwynfryn a Wrecsam. Mae’r safle wedi cael ei gysylltu â chloddio am galchfaen ers dros 200 mlynedd, gyda’r gwaith yn dod i ben yma yn 1994. Mae rhannau o’r chwarel wedi adfywio’n naturiol a bellach maent yn gartref i lawer o gynefinoedd a rhywogaethau prin a than fygythiad, yn ogystal â threftadaeth (gyda chloddiau o odynnau calch segur a safle Odyn Hoffmann: Henebion Rhestredig ill dau) a system nodedig o ogofâu calchfaen naturiol.

Mae bywyd gwyllt y chwarel heddiw, sydd wedi’i gwarchod gan sawl dynodiad statudol, yn cynnwys o leiaf tair rhywogaeth o ystlumod (pedol lleiaf, clustiog brown, Natterer) ac adar sy’n byw ar glogwyni, fel yr hebog tramor a’r gigfran. Fodd bynnag, efallai mai’r nodwedd bwysicaf un yw’r gymuned wych o blanhigion, sydd â llawer o rywogaethau sy’n rhai arbenigol ar laswelltir calchfaen (tegeirian bera, tegeirian pêr, tegeirian y broga, coedwyrdd crynddail, crwynllys yr hydref, lloerlys ... mae’r rhestr yn ddiddiwedd!). 

Mae YNGC wedi bod yn trafod gyda Tarmac, perchnogion presennol Chwarel Minera, ers peth amser, i drosglwyddo’r tir i’r Ymddiriedolaeth Natur. Rydyn ni eisiau diogelu’r safle ar gyfer y dyfodol mewn partneriaeth â phobl leol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Chwarel Minera. Ein nod ni yw ei gwneud yn ased cymunedol gyda llwybrau mynediad o amgylch nodweddion allweddol; cyfres gyson o ddigwyddiadau cyhoeddus; ac wrth gwrs rhaglen o waith cadwraeth hanfodol, gan gynnwys clirio llwyni ac ailgyflwyno pori dan reolaeth, sydd wedi bod yn absennol ers amser maith.
 

Public Rights of Way are unaffected by the change of ownership.