Cyngor defnyddiol wrth ymweld â'n gwarchodfeydd natur ni
Mae’r 35 o warchodfeydd natur sydd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i gyd yn unigryw yn eu ffordd eu hunain. Maen nhw’n gartref i blanhigion ac anifeiliaid cyffredin a phrin sydd ddim efallai’n bodoli yn unman arall yng Ngogledd Cymru. Mae defnydd anghyfrifol o’n gwarchodfeydd natur ni’n cynnwys mynd â chŵn am dro oddi ar dennyn, a beicwyr, loncwyr a cherddwyr sy’n gwyro oddi ar y llwybrau troed yn arwain at effeithiau negyddol enfawr ar y safleoedd sensitif hyn.