| Newyddion, Digwyddiadau a Chofnodi Bywyd Gwyllt yng Nghemlyn
Diweddarwyd ddiwethaf - Mis Awst 2011
Crynodeb 2011
Roedd 2011 yn dymor llwyddiannus arall gyda lleiafswm o 1500 o Forwenoliaid Pigddu wedi hedfan y nyth allan o 1700 o barau magu yn ôl yr amcangyfrif. Mae hyn yn gynnydd o 3.6% o leiaf ar 2010.
Roedd cynnydd yn nifer y Morwenoliaid Cyffredin o gymharu â 2010, i amcangyfrif o 155 o barau eleni, 140 ar y Brif Ynys a 15 ar yr Ynys Fechan. Cafwyd uchafswm o 70 o gywion ‘comic’ wrth gyfrif, ond rydym yn gwybod bod nifer ohonynt eisoes allan ar y môr erbyn hynny. Ar y 23ain o Orffennaf, gwelwyd yr arwyddion cyntaf o ysglyfaethu ar raddfa fawr ar yr Ynys Fechan, gyda 66 o gywion wedi hedfan y nyth a dau oedolyn wedi’u canfod yn farw. Yn seiliedig ar y cyfrif dyddiol a’r ysglyfaethu roeddem yn gwybod amdano, rydym yn amcangyfrif bod 110 o gywion y Morwenoliaid Cyffredin wedi hedfan y nyth. Roedd niferoedd Morwenoliaid y Gogledd yn is eto na’r llynedd, gydag amcangyfrif o 35 o barau. Er hynny, cafwyd mwy o lwyddiant gyda’r cywion yn hedfan y nyth – amcangyfrif o 25.
Magodd o leiaf 390 o barau o Wylanod Penddu ar yr ynysoedd, gydag o leiaf 100 o barau ar yr Ynys Fechan. Mae hyn yn gynnydd o 27% ar 2010. Cafwyd problemau mawr gydag ysglyfaethu ar ddechrau’r tymor; bu i rai parau ailddodwy, ond dim cymaint â’r llynedd. Llwyddodd amcangyfrif o 250 o gywion i hedfan y nyth. Magodd pâr o Wylanod Môr y Canoldir yma eto eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn anffodus, ni lwyddodd unrhyw gywion i hedfan y nyth.
Roedd yr amodau’n dda iawn i’r holl rywogaethau fagu eleni. Roedd y tywydd yn dda iawn yn ystod misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf, ond gyda gwyntoedd cryf yn ystod mis Mai. Cafwyd cofnodion tywydd dyddiol yn llyfr cofnodion y wardeniaid.
Cofnodwyd 342 o rywogaethau o anifeiliaid yn y warchodfa ac o’i hamgylch yn ystod y tymor. Roedd hyn yn cynnwys 141 o adar; 15 o famaliaid; 4 o ymlusgiaid ac amffibiaid; 8 pysgodyn a 172 o rywogaethau o infertebrata (gwyfynnod yn bennaf).
Gwyliwyd y môr yn achlysurol a chofnodwyd yr holl famaliaid, yr ymlusgiaid, yr amffibiaid a’r infertebrata. Cynhaliwyd trawsluniau glöynnod byw a daliwyd gwyfynnod mewn rhwydi.
Roedd nifer yr ymwelwyr a chyfanswm eu rhoddion yn is na’r llynedd.
|